Cronfa Datblygu Dysgu ac Addysgu (CDDA)
Rhesymwaith
Amcan y gronfa yw annog datblygiadau dysgu ac addysgu. Mae’r Brifysgol yn awyddus i gydweddu’r gwariant â meysydd datblygu a nodir yn y cyd Strategaeth Dysgu, Addysgu ac Ehangu Mynediad Aberystwyth / Bangor. Yn benodol rydym ni’n edrych am brosiectau sylweddol sy’n drawsadrannol neu sydd â chanlyniadau a fydd yn amlwg yn ddefnyddiol ar draws adrannau ac yn y meysydd canlynol:
- Cipio darlithoedd.
- Nodweddion lefel gradd yn enwedig rhifedd.
- Cyflogadwyedd.
- Adborth.
Oherwydd anawsterau yn canfod cydweithredwyr mewn adrannau eraill sydd â diddordeb, rydym ni’n eich annog i anfon ebost yn amlinellu eich syniadau cychwynnol at cdsap@aber.ac.uk, a fydd yn dod â chynigion cydnaws at ei gilydd.
Gellir cyflwyno cynigion hyd at uchafswm o £2000
Ffurflen Gais
Croesawir cynigion i’r gronfa hon yn y meysydd canlynol:
- Prosiectau sy’n adolygu ac yn gwerthuso ymarfer pedagogaidd cyfredol, yn darparu tystiolaeth berthnasol i adrannau ar gyfer gwneud penderfyniadau neu dystiolaeth a allai gefnogi cyflwyniad Sicrhau Ansawdd;
- Prosiectau sy’n datblygu adborth mewn ffyrdd ffurfiannol ac adolygol;
- Prosiectau sy’n canolbwyntio ar gwestiynau ynghylch ehangu cyfranogiad ac yn edrych ar sut y gall adrannau gefnogi staff a myfyrwyr wrth ymdrin â’r anghenion dysgu gwahanol sy’n codi yn sgil amrywiaeth ehangach o ran recriwtio myfyrwyr;
- Prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r broses dysgu ac ansawdd y canlyniadau
Paratoi
Wrth baratoi cynnig, cynghorir ymgeiswyr fel a ganlyn:
- Mae’n hanfodol nodi sut y gellid cymhwyso canlyniadau’r prosiect i adrannau eraill a/neu eu potensial ar gyfer defnydd ehangach ar draws a’r tu hwnt i’r Brifysgol.
- Mae’r Brifysgol yn disgwyl y bydd canlyniadau’r holl brosiectau a gefnogir gan y gronfa hon yn cael eu lledaenu. Bydd yr holl adroddiadau* yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd a bydd gwahoddiad i ymgeiswyr hefyd gyflwyno mewn gweithdy yn y Ganolfan.
- Mae prosiectau cydweithredol rhwng unigolion, adrannau neu gyfadrannau yn gymwys am gymorth.
- Rhaid i’r holl ymgeiswyr lynu wrth ymarfer da a dangos hynny o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth cynnwys, ymagwedd a chanlyniadau’r prosiect. Gwefan Cyfle Cyfartal PA
Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i drafod eu cynnig gyda Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu eu hadran.
* Disgwylir y bydd adroddiad terfynol yn cael ei ddarparu o fewn 18 mis i ddyfarnu’r cyllid, mewn amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosibl disgwylir y caiff adroddiad cynnydd ei ddarparu.
Dylai cynigion gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Manylion cyswllt pawb sy’n ymwneud â’r prosiect
- Yr adran(nau), ysgol(ion), cyfadran(nau) sy’n cyfranogi
- Bywgraffiad gyrfa 200 gair
- Amlinelliad cryno o’r prosiect a’r gweithredu arfaethedig
- Amlinelliad dadansoddol o’r prosiect
- Costau manwl
- Cyfnod y prosiect
- Sut caiff y prosiect ei werthuso
- Llofnod y Pennaeth Adran a’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu
Y Broses Ymgeisio
Ceisiadau’n agor: 13 Chwefror 2012
- Gellir trafod y cynigion gyda Graham Lewis, Cydlynydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd
- Ffôn: 01970 621802
- Ebost: gjl@aber.ac.uk
Dyddiad cau i geisiadau: 16 Mawrth 2012
- Anfonwch gopi caled o’ch ffurflen gais i: Y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd, G19, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DD
a
- Fersiwn electronig drwy ebost i: cdsap@aber.ac.uk
Cyfarfod y Panel Asesu: Ebrill 2012
- DI-G Dysgu ac Addysgu
- Deon y Gwyddorau
- Deon y Gwyddorau Cymdeithasol
- Deon y Celfyddydau
- Cydlynydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd
- Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu
Cyhoeddi’r Canlyniadau: Ebrill 2012
Trosglwyddo Cyllid: Mai 2012
Y Broses Werthuso
- Bydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn cysylltu â deiliaid dyfarniadau ar ôl 18 mis: Hydref 2013
- Cyflwyno adroddiad terfynol i’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd: Ionawr 2014
- Cyflwyno adroddiad terfynol i’r Panel Asesu: Ebrill 2014
Gellir gofyn i ddeiliaid dyfarniadau gyflwyno canfyddiadau / canlyniadau’r dyfarniad drwy weithdy neu ddigwyddiad dysgu ac addysgu y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.