Cronfa Datblygu Staff (CDS)
Mae’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn gweinyddu cronfa fach neilltuedig i gynnig cymorth ariannol (uchafswm o £300 yr unigolyn, os bydd cyllid ar gael) i alluogi aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth i fanteisio ar hyfforddiant neu gyfleoedd datblygu allanol cymeradwyedig.
Ffurflen Gais
Canllawiau
Fel rheol, bydd cymorth ar gael o dan yr amodau canlynol:
Bod gan yr aelodau o staff gontract cyflogaeth sy’n o leiaf 18 awr yr wythnos, am gyfnod o chwe mis o leiaf. Fel arfer disgwylir i staff sydd ar gontractau cyfnod penodol gwblhau’r hyfforddiant neu’r cyfleoedd datblygu yn ystod cyfnod eu cyflogaeth yn y Brifysgol.
Nad oes modd cynnig yr un hyfforddiant neu gyfle datblygu, neu hyfforddiant neu gyfleoedd cyffelyb neu gyfwerth, yn y Brifysgol.
Rhaid i’r cais, ac unrhyw wybodaeth berthnasol am y cwrs, gael ei gyfeirio yn y lle cyntaf i Bennaeth Adran/ Gwasanaeth yr aelod staff cyn gwneud cais am gyllid.
Bydd yr hyfforddiant neu gyfle datblygu yn berthnasol i swydd gyfredol yr unigolyn neu ddatblygiad disgwyliedig ei yrfa o fewn y Brifysgol, a hefyd yn debygol o fod o fudd i waith yr adran yn gyffredinol. Gofynnir i’r Pennaeth Adran/ Gwasanaeth i nodi’r buddiannau hynny.
Lle mae’r hyfforddiant neu gyfle datblygu yn arwain at radd neu gymhwyster proffesiynol, neu ddiploma uwchraddedig:
- Rhaid bod yr aelod staff wedi bodloni isafswm gofynion mynediad y Corff Arholi, ac mae’n bosib y gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o hyn.
- Dylai Pennaeth yr Adran/ Gwasanaeth gadarnhau bod hyn yn arwain at gymhwyster neu radd gymeradwyedig gan gorff proffesiynol neu addysgiadol cydnabyddedig.
Hefyd gall Pennaeth yr Adran/ Gwasanaeth gynnig, wrth drafod anghenion hyfforddi a datblygu gyda’r aelod o staff, y dylai ef/hi ddilyn cymhwyster neu radd gymeradwyedig o dan y trefniadau hyn.
Ni fydd y Brifysgol yn talu i anfon aelodau o staff i gynadleddau disgyblaeth-benodol. Fodd bynnag, gallai staff sy’n mynychu digwyddiadau allanol sy’n anelu at ddatblygu dysgu (megis y rhai a gynigir gan ganolfannau pwnc yr Academi Addysg Uwch), gael cymorth rhannol ar yr amod bod cyfranogwyr yn rhannu’r profiad hwn o fewn eu hadran a chyda staff GDSYA o leiaf, ac yn cyflwyno tystiolaeth o hyn.
Lle mae Pennaeth Adran/ Gwasanaeth yn dymuno cynnig bod aelod o staff yn dilyn hyfforddiant neu gyfle datblygu allanol sy’n bodloni’r meini prawf, neu sy’n cefnogi cais gan aelod o staff, bydd y Brifysgol yn cyfrannu tuag at gostau’r hyfforddiant neu gyfle datblygu penodol, yn amodol ar gael cytundeb Cydlynydd y ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd. Bydd y swm a ddyfarnir yn amrywio, gan ddibynnu ar y cyllid sydd ar gael. Ni fydd y cyfraniad o’r gronfa Datblygu Staff yn fwy na (a) £300 y flwyddyn a (b) 50% o gyfanswm y gost am y flwyddyn. Yr adran fydd yn gyfrifol am dalu’r gweddill.
Bydd y taliadau hyn yn cynnwys:
- Ffioedd ar gyfer dosbarthiadau nos neu gyrsiau diwrnod neu gyrsiau gohebiaeth
- Ffioedd arholiad ar gyfer dau gynnig ar bob rhan o’r arholiad yn unig
- Tâl mynediad ysgoloriaeth ymchwil sefydliad proffesiynol lle y bo’n briodol (nid yw tanysgrifiadau blynyddol yn gynwysedig)
- Prynu gwerslyfrau yn unol â rhestrau darllen y sefydliad addysgiadol sy’n cynnig y cwrs
- Costau unrhyw elfennau preswyl
Cedwir cofnod o’r hyfforddiant neu ddatblygiad, ac o daliadau a wneir i’r aelod staff, yn y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd, ac anfonir copi at Bennaeth yr Adran/ Gwasanaeth.
Rhaid cyflwyno tystiolaeth bod yr aelod staff wedi mynychu’r digwyddiad, a chopi o unrhyw gymhwyster, i’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd ynghyd ag adroddiad byr ar yr hyfforddiant neu gyfle datblygu.
Gall aelod o staff, yn amodol ymhob achos ar gymeradwyaeth y Pennaeth Adran/ Gwasanaeth, gael ei ryddhau am ddiwrnod, ond am ddim mwy na nag un diwrnod gwaith yr wythnos yn ystod tymor y sefydliad a fynychir, i fynychu cyrsiau cymeradwyedig. Rhaid darparu tystiolaeth bod yr aelod staff wedi mynychu’r cwrs, ac fe dynnir y consesiwn hwn yn ôl os nad yw Pennaeth yr Adran/ Gwasanaeth yn fodlon â’r cynnydd.
Yn ychwanegol, lle mae aelod o staff yn cymryd cwrs astudio cymeradwyedig, caniateir iddo ef/hi, ar yr amod bod Pennaeth yr Adran yn fodlon â’r cynnydd, gymryd cyfnod o absenoldeb astudio o ddim mwy na 10 diwrnod y flwyddyn, yn ôl doethineb Pennaeth yr Adran/ Gwasanaeth, i’w gymryd ar adegau a bennir gan Bennaeth yr Adran/Gwasanaeth.