Disgrifyddion yr UKPSF

Ar y dudalen hon:

  • Beth yw’r Disgrifyddion?
  • Pam fod yna bedwar Disgrifydd?
  • Sut maen nhw’n cysylltu â’i gilydd?
  • Sut mae defnyddio’r Disgrifyddion?

Beth yw’r Disgrifyddion?

Mae’r rhain yn gyfres o ddatganiadau sy’n amlinellu prif nodweddion unigolyn sydd wrthi’n cyflawni pedwar categori eang mewn rolau nodweddiadol addysgu a chynorthwyo dysgu mewn Addysg Uwch.

Mae pob Disgrifydd yn dechrau gyda datganiad cyffredinol wedi’i gyfeirio at yr ymarferydd. Mae’r datganiad hwn yn nodi’r gryno y lefel ddealltwriaeth sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni rôl addysgu a chynorthwyo dysgu o’r math hwnnw ar safon briodol mewn sefydliad addysg uwch. Dilynir hwn gan gyfres o rhwng pump a saith datganiad pellach sy’n tynnu ar y Dimensiynau Ymarfer i nodi beth y dylai rhywun sy’n cyflawni’r rolau hyn ddangos tystiolaeth ohono.

Er enghraifft, os ydych yn gweithio mewn rôl o fewn Disgrifydd 2, byddai disgwyl i chi fod yn gallu darparu tystiolaeth o ymwneud llwyddiannus ar draws pob un o’r pum Maes Gweithgarwch a bod â gwybodaeth a dealltwriaeth briodol ar draws pob agwedd ar y Wybodaeth Graidd etc.

Mae’r datganiadau cyffredinol ar gyfer Disgrifyddion 1 i 3 yn debyg iawn; maent yn gwahaniaethu yn unig yn nyfnder ac ehangder y ddealltwriaeth sy’n ofynnol gyda rhai gwahaniaethau manwl ychwanegol. Mae ganddynt nifer o nodweddion allweddol yn gyffredin. Mae Disgrifydd 4 tipyn yn wahanol o ran cymeriad, a sonnir amdano ar wahân isod.

Pam fod yna bedwar Disgrifydd?

Bwriad y Disgrifyddion yw cwmpasu ystod lawn y rolau addysgu a chynorthwyo dysgu mewn addysg uwch. Gan fod y rolau hyn yn amrywiol iawn, roedd yn rhaid creu nifer o ddisgrifyddion i gyfleu’r holl fathau o rolau y gallai staff ymwneud â hwy.

Mae Disgrifydd 1 wedi’i gynllunio i fod yn berthnasol i staff sydd â rôl addysgu ac/neu gynorthwyo dysgu sy’n canolbwyntio ar o leiaf dau o’r Meysydd Gweithgarwch, ond nid y cyfan. Byddai disgwyl iddynt hefyd feddu ar y Wybodaeth Graidd briodol a bod yn ymrwymedig i Werthoedd Proffesiynol priodol. Mae’n bosibl hefyd y byddant efallai yn cyflawni eu rôl gyda chymorth mentoriaid neu athrawon mwy profiadol. Ynghyd â phob Disgrifydd ceir awgrymiadau o rolau swyddi nodweddiadol o dan y disgrifydd hwnnw. Enghraifft o rôl ar gyfer Disgrifydd 1 yw ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb addysgu.

Bwriad Disgrifydd 2 yw rhoi sylw i staff sydd â rôl(rolau) addysgu a chynorthwyo dysgu mwy sylweddol sy’n cwmpasu’r holl Feysydd Gweithgarwch, Gwybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol.

Mae Disgrifydd 3 yn cyflwyno dimensiwn arweinyddiaeth addysgol gref (nad yw o reidrwydd yn rôl rheoli), tra bod Disgrifydd 4 wedi’i gynllunio ar gyfer staff profiadol iawn sydd wedi cael effaith parhaus a sylweddol ar lefel strategol mewn perthynas ag addysgu a chynorthwyo dysgu.

Mae Cynllun Cydnabyddiaeth Aberystwyth-Bangor yn darparu llwybr cydnabyddiaeth ac achredu ar gyfer pob un o’r categorïau hyn er mwyn gallu cydnabod aelod o staff sy’n addysgu ac/neu’n cynorthwyo dysgu, yn dibynnu ar eu rôl a’u profiad fel a ganlyn:

  • Disgrifydd 1: Cyswllt yr Academi (AFHEA)
  • Disgrifydd 2: Cymrawd yr Academi (FHEA)
  • Disgrifydd 3: Uwch Gymrawd yr Academi (SFHEA)
  • Disgrifydd 4: Prif Gymrawd yr Academi (PFHEA)

Sut mae’r Disgrifyddion yn cysylltu â’i gilydd?

Gellir ystyried y Disgrifyddion i fod yn annibynnol ar ei gilydd ac yn hierarchaidd, yn dibynnu ar yr unigolyn ac/neu’r cyd-destun y maent yn gweithio ynddo. Er enghraifft: gallai academydd weld eu llwybr gyrfa (wedi’i fynegi yn nhermau datblygiad proffesiynol addysgu) fel symud drwy rolau Cynorthwyydd Dysgu Graddedig (Disgrifydd 1) drwy swydd Darlithydd (Disgrifydd 2), fel y brif raddfa yrfa, i rôl academaidd arweiniol neu reolwyr canol (Disgrifydd 3); ac o bosibl at rôl arweinyddiaeth uwch sydd ag impact y gellir ei ddangos (Disgrifydd 4). Yn yr achos hwn gellid ystyried yr UKPSF yn hierarchaidd, gan fod dilyniant clir rhwng y disgrifyddion gyda disgrifydd 2 wedi’i gynnwys o fewn disgrifydd 3.

I unigolion eraill, efallai nad oes llwybr gyrfa clir i’w gwaith addysgu neu eu bod mewn swydd y maent yn debygol o aros ynddi. Gallai hyn fod yn wir am dechnolegwyr dysgu, ffisiotherapyddion sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle, cynghorwyr ar yrfa, llyfrgellwyr a chlinigwyr meddygol na fyddai eu datblygiad gyrfa yn golygu symud ymlaen drwy’r Disgrifyddion. Yn yr achos hwn ni chaiff yr UKPSF ei weld yn hierarchaidd; mae’r Disgrifyddion yn darparu’r mecanwaith ar gyfer cydnabod yr hyn y mae’r unigolyn yn ei wneud ac ar gyfer eu datblygiad proffesiynol unigol, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar sut y gallent ddatblygu gwahanol agweddau ar eu gweithgareddau addysgu a chynorthwyo dysgu. Enghraifft o hyn fyddai tiwtor sydd ond yn gwneud rhai elfennau o addysgu a dysgu ac a allai felly alinio eu gweithgareddau gwaith â Disgrifydd 1. Efallai fod cyfleoedd iddynt fodd bynnag edrych y tu hwnt i’w gwaith presennol ac/neu addasu i newidiadau posibl yn eu rôl, drwy weithio tuag at Ddisgrifydd 2.

Mae’n bosibl felly na fydd unigolion yn symud drwy holl ddisgrifyddion yr UKPSF ac yn hytrach yn gweithio o fewn y Disgrifydd sydd fwyaf perthnasol i’w rôl.

Yn y naill achos, dylid ystyried yr UKPSF yn ddatblygiadol, gan gynnig cyfleoedd clir i unigolion nodi meysydd i’w datblygu a mynd i’r afael â’r Disgrifydd y tu hwnt i’r hyn sy’n berthnasol i’w gwaith a’u gyrfa ar hyn o bryd.

Sut mae defnyddio’r Disgrifyddion?

Mae’r UKPSF (ac yn enwedig y Disgrifyddion) yn fodd i gyfleu cynnydd yr unigolyn o ran datblygu gwybodaeth, arbenigedd, effaith, dylanwad ac arweinyddiaeth mewn addysgu a chynorthwyo dysgu. Gellir eu defnyddio i ennill cydnabyddiaeth fel Cymrawd Cyswllt, Cymrawd, Uwch Gymrawd neu Brif Gymrawd a gellir eu defnyddio hefyd fel sail ar gyfer adfyfyrio proffesiynol ar y rolau sy’n gysylltiedig ag addysgu neu gynorthwyo dysgu mewn sefydliadau addysg uwch.

Defnyddio Disgrifydd 1

Mae’r Disgrifydd hwn yn berthnasol i’r rhai nad ydynt yn ymwneud â sbectrwm llawn y gweithgareddau a allai ddiffinio ymarfer academaidd neu academaidd gysylltiedig, ond sydd â rôl benodol mewn addysgu a chynorthwyo dysgu mewn AU. Nid yw unigolion o’r fath, beth bynnag yw eu rôl neu statws, yn gallu dangos tystiolaeth o arbenigedd ac ymwneud â phob dimensiwn o’r UKPSF. Mae’r Disgrifydd wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg ac i adlewyrchu amrywiaeth o wahanol gyfuniadau o weithgareddau y gall addysgu a dysgu mewn Addysg Uwch ei gynnwys. Mae darluniau o’r camau nodweddiadol mewn gyrfa/rôl yn dangos nad yw addysgu a chynorthwyo dysgu yn Nisgrifydd 1 yn aml yn weithgaredd ‘ffurfiol’ a gall fod ar ffurf dulliau mwy anffurfiol, hyrwyddol.

Mae’n rhaid i unigolion ddangos eu bod yn ymwneud ag o leiaf dau o’r Meysydd Gweithgarwch. Dylent ddewis meysydd sy’n berthnasol i’w gwaith ac/neu fydd yn datblygu eu sgiliau ar gyfer rolau a gweithgareddau yn y dyfodol. Er enghraifft: efallai na fydd angen i Gynorthwyydd Dysgu Graddedig gynllunio gweithgareddau dysgu ac/neu raglenni astudio (A1) nac asesu a rhoi adborth i fyfyrwyr (A3) ond mae’n ddigon posibl y byddant yn addysgu mewn grwpiau seminar bach neu mewn sesiynau labordy (A2) ac yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn rhoi’r adnoddau priodol i’w dysgwyr ac am wneud gwaith dilynol ar ôl sesiynau tiwtorial ac addysgu rheng flaen eraill (A4). Gall hefyd fod gofyn iddynt adfyfyrio ar effeithiolrwydd yr hyn maent yn ei wneud, casglu gwybodaeth sy’n gwerthuso eu haddysgu a dangos sut y maent yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd (A5). Dylai unigolion hefyd ddangos Gwybodaeth Graidd sy’n berthnasol i’r ddau Faes Gweithgarwch; yn yr enghraifft hon K4 a K5 o bosibl yw’r rhai mwyaf perthnasol. Os oes unrhyw feysydd Gwybodaeth Graidd eraill sy’n briodol i’w hymarfer, gellid dangos y rhain hefyd a’u defnyddio fel dangosyddion cynnydd.

Yn ychwanegol at y Meysydd Gweithgarwch a’r Wybodaeth Graidd, dylid dangos tystiolaeth o ymwybyddiaeth o’r holl Werthoedd Proffesiynol ac ymrwymiad iddynt. Gellid integreiddio hyn i’r dystiolaeth a gyflwynwyd ar gyfer y Meysydd Gweithgarwch a Gwybodaeth Graidd trwy ddarparu sail resymegol berthnasol ynghylch pam y defnyddiwyd dulliau penodol (V1), yr egwyddorion (V2) a’r ymchwil/theori berthnasol sy’n sail i’w hymarfer (V3). Yn ychwanegol at y Meysydd Gweithgarwch a ddewiswyd a’r Wybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol, ac yn gydnaws â nodwedd benodol addysg uwch, disgwylir tystiolaeth o ymgorffori pwnc perthnasol ac ymchwil ac/neu ysgolheictod pedagogaidd yn y gweithgareddau a ddewiswyd.

Enghreifftiau eraill o unigolion sy’n gweithio tuag at Ddisgrifydd 1 neu sydd ar y lefel hon eisoes fyddai clinigwr sy’n cynorthwyo dysgu myfyrwyr yn y lleoliad clinigol ac sy’n ymwneud ag arholiadau clinigol strwythurol gwrthrychol (OSCEs); technolegydd dysgu sydd â chyfrifoldebau am ddatblygu staff ac sy’n rhan o gynllunio a chyflwyno gweithdai a deunyddiau ar-lein, ond sydd heb gyfrifoldeb am asesu, neu lyfrgellydd sydd yn yr un modd yn cynorthwyo dysgu myfyrwyr, yn cynllunio gweithgareddau i ddatblygu gallu myfyrwyr i ymchwilio mewn llyfrgell, ond sydd heb unrhyw rôl asesu.

Mae’r Disgrifydd hwn yn caniatâu i’r defnyddiwr ddehongli a chymhwyso dimensiynau’r UKPSF mewn ffordd sy’n ystyrlon i’w harferion, ar yr un pryd â sicrhau bod disgwyliadau rôl addysgu a chynorthwyo dysgu cyfyngedig hefyd yn cael sylw.

Defnyddio Disgrifydd 2

Mae Disgrifydd 2 yn adlewyrchu cyfrifoldebau addysgu prif radd a dyma’r disgrifydd disgwyliedig ar gyfer pob aelod o staff sy’n gwneud gwaith dysgu sylweddol fel rhan o’u rôl. Mae’r Disgrifydd yn adnabod ac yn cydnabod arfer da mewn cyd-destunau dysgu addysg uwch, lle bynnag y bo hyn yn digwydd, a sut bynnag yr eir ati i addysgu a chynorthwyo dysgu. Ymhellach, mae’n cydnabod amrywiaeth staff sydd, mewn gwahanol ffyrdd, yn darparu addysg a chymorth o’r fath.

Bydd unigolion sydd o fewn Disgrifydd 2 yn gallu dangos cyrhaeddiad a llwyddiant yn holl Ddimensiynau’r UKPSF, gan gynnwys Meysydd Gweithgarwch, Gwybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol. Fel o’r blaen, mae disgwyl iddynt ymgorffori pwnc perthnasol ac ymchwil ac/neu ysgolheictod pedagogaidd yn eu dulliau gweithio. Bydd y ffyrdd o dystiolaethu hyn yn dibynnu ar y cyd-destun y mae’r unigolyn yn gweithio ynddo, natur y pwnc, disgyblaeth neu broffesiwn y maent yn ei addysgu, a disgwyliadau’r sefydliad y mae’r unigolyn yn gweithio iddo.

Bydd yr unigolion hyn yn dangos eu bod yn ymwneud â gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus gyda golwg benodol ar ddysgu ac addysgu, ac sy’n arwain at wella eu haddysgu. Mae’r gweithgareddau hyn yn debygol o fod yn eang, gan ymgorffori elfennau ffurfiol ac anffurfiol i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae enghreifftiau yn cynnwys: cyflwyno neu gymryd rhan mewn cynadleddau ar addysgu a dysgu (yn aml yn benodol i ddisgyblaeth), mynychu gweithdai neu ddigwyddiadau hyfforddi, arsylwi neu adolygu cymheiriaid yn addysgu, yn ogystal â gweithgareddau llai ffurfiol y mae unigolion yn gynyddol yn gallu eu defnyddio a’u hystyried yn gyfraniadau gwerthfawr i’w datblygiad proffesiynol parhaus fel athrawon. Gallai’r rhain gynnwys cyfarfodydd adrannol rheolaidd lle mae’r drafodaeth yn ymwneud â materion dysgu ac addysgu; ‘trafodaethau coridor’ ynghylch addysgu; cyflwyno cynigion am brosiectau neu ymchwil ar addysgu a dysgu a chymryd rhan mewn prosiectau o’r fath; rhoi dulliau newydd ar waith; gweithgareddau rhwydwaith pwnc ac eraill, darllen, ac ymweliadau â sefydliadau/prifysgolion eraill ac ati.

Defnyddio Disgrifydd 3

Fel rheol bydd gan unigolion sy’n gweithio tuag at Ddisgrifydd 3, neu wedi’i gyrraedd, lefel sylweddol o arbenigedd, wedi’i ddatblygu dros amser, o gynorthwyo dysgu myfyrwyr ar safon uchel ym mhob un o Ddimensiynau’r UKPSF. Byddant wedi ennill profiad perthnasol trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys mentora, cydlynu, goruchwylio a rheoli unigolion a grwpiau. Bydd unigolion yn dangos tystiolaeth o ddyfnder a soffistigedigrwydd eu dealltwriaeth ac yn dangos ymwneud  parhaus a llwyddiannus â fframwaith UKPSF, gan nodi yn benodol sut y defnyddir y cyfryw wybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd yn eu dull o addysgu, mentora a’u rolau arwain.

Mae Disgrifydd 3 yn cydnabod arfer da estynedig yn y dosbarth (neu amgylchedd dysgu) yn ogystal ag wrth gefnogi profiad dysgu myfyrwyr mewn cyd-destun ehangach. Byddai hyn fel arfer yn cynnwys tystiolaeth o effaith effeithiol a sylweddol ar fyfyrwyr, ar gydweithwyr ac ar y sefydliad/prifysgol. Mae gofyn cael tystiolaeth o sffêr ehangach o ddylanwad na’r ystafell ddosbarth a’r grŵp myfyrwyr (y disgwyliad sylfaenol ar gyfer Disgrifydd 2). Ni fydd profiad cymharol gyfyngedig o reoli modiwl ac/neu raglen, neu fentora staff newydd, er enghraifft, yn ddigon.

Mae Disgrifydd 3 yn ymgorffori holl ofynion Disgrifydd 2 ac felly mae modd ystyried ei fod yn adeiladu ar Ddisgrifydd 2. Un ffordd o weld y gwahaniaeth rhyngddynt yw bod Disgrifydd 2 yn ymwneud yn bennaf â phawb sy’n addysgu ac felly’n ddisgwyliad craidd, tra bod Disgrifydd 3 yn mynd i’r afael ag athrawon profiadol ac unigolion eraill sy’n dangos arweinyddiaeth yn eu harferion dysgu ac addysgu a gweithgareddau cysylltiedig. Mae’r Disgrifydd yn gofyn am dystiolaeth o effaith, llwyddiant a dylanwad parhaus ehangach. Byddai hyn yn berthnasol yn achos unigolion sydd, er enghraifft, wedi datblygu ac wedi arwain rhaglenni addysgu a dysgu sylweddol, wedi arwain prosiectau sy’n canolbwyntio ar addysgu a dysgu ar draws sefydliadau (a rhyngddynt), rhoi arweinyddiaeth i waith mewn cymunedau sy’n seiliedig ar ddisgyblaeth, neu unigolion sydd wedi arwain ymgynghoriaeth ar gyfer darnau mawr o waith addysgol i gymdeithasau a chyrff proffesiynol eu pwnc.

Os yw unigolyn wedi cael ei gydnabod yn flaenorol ar lefel Disgrifydd 2, yna gall symud ymlaen i Ddisgrifydd 3 ar y sail eu bod eisoes wedi dangos tystiolaeth o bob Maes Gweithgarwch, Gwybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol. Dim ond tystiolaeth o elfennau Disgrifydd 3 sy’n wahanol i Ddisgrifydd 2 y bydd yn rhaid iddynt ei dangos, a thystiolaeth sy’n amlwg yn cryfhau achos Disgrifydd 3. Wrth gwrs, mae’n bosibl i unigolyn sydd ddim wedi’i gydnabod yn flaenorol ar lefel Disgrifydd 2 gael ei gydnabod ar lefel Disgrifydd 3. Byddai hyn fel arfer yn rhywun sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol, sydd â thystiolaeth o DPP mewn pedagogeg /addysgu a dysgu ac sy’n arwain rhaglenni mawr ac/neu sy’n mentora cydweithwyr ac ati, ac yn gallu dangos eu harbenigedd, effaith a’u dylanwad. Gallent, er enghraifft, fod yn weithiwr proffesiynol ganol gyrfa sy’n athro/athrawes hynod brofiadol ac effeithiol sydd â chryn gyfrifoldeb addysgu.

Mae diffyg terminoleg gyffredin yn peri anawsterau wrth ddehongli’r term ‘mentora’. Yng nghyd-destun yr UKPSF, caiff ‘mentora’ ei ystyried i fod yn berthnasol i’r cyd-destun y mae’n digwydd ynddo ac fel rheol caiff ei ddeall i olygu rhoi cefnogaeth, her ac arweiniad i aelodau llai profiadol o staff neu gydweithwyr er mwyn eu helpu i ddatblygu eu hunain, a hynny’n enwedig ar agweddau addysgu a dysgu eu hymarfer proffesiynol. Gall hyn ddigwydd o fewn ymbarél ffurfiol cynlluniau mentora sefydliadol, neu fod y tu allan i gynlluniau o’r fath.

Defnyddio Disgrifydd 4

Mae Disgrifydd 4 yn gwbl wahanol i Ddisgrifyddion 1, 2 a 3. Mae’n berthnasol i athrawon profiadol iawn sydd yn cael, neu wedi cael, eu parchu yn eang am eu haddysgu effeithiol ac sydd wedi symud ymlaen i rolau uwch. Bydd ganddynt brofiad a gwybodaeth sylweddol o addysgu a chynorthwyo dysgu a byddant yn defnyddio hyn i gael effaith ar lefel uwch. Efallai y bydd natur eu gwaith yn golygu nad oes ganddynt ar hyn o bryd unrhyw gyswllt uniongyrchol â myfyrwyr wrth addysgu neu gynorthwyo dysgu. Fel arfer, bydd eu gwaith yn cynnwys arweinyddiaeth strategol effeithiol ar ymarfer/datblygiad academaidd a hwnnw’n arwain at ddatblygu a gweithredu profiadau dysgu o safon uchel i fyfyrwyr.

Bydd y dystiolaeth a ddefnyddir ar gyfer Disgrifydd 4 yn dibynnu ar y cyd-destun y mae’r unigolyn yn gweithio ynddo, ond mewn sawl ffordd mae’n debygol o fod yn sylfaenol wahanol i’r math o dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Disgrifydd 3. Nid oes angen i’r ffocws fod yn bennaf ar arferion addysgu a dysgu unigolyn, ond gallai canolbwyntio ar y cyfraniadau a wneir, er enghraifft, i bedagogeg pwnc, dulliau arloesol, a’r dystiolaeth o effeithiolrwydd ac effaith ar lefel strategol. Gall y dystiolaeth hon dynnu ar ystod eang o brofiadau a gweithgareddau ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth ac ymrwymiad i’r Wybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol.

Y ffordd o ddangos y Disgrifydd fyddai cyflwyno naratif synoptig sy’n tystio pob agwedd ar y Disgrifydd. Gan na fydd yr unigolyn o reidrwydd yn dod i gysylltiad uniongyrchol â dysgwyr byddai angen iddynt dynnu ar enghreifftiau o’u gwaith sy’n dangos eu dealltwriaeth o ddefnyddio a gwerth yr UKPSF. Gallai hyn gynnwys sut y maent wedi defnyddio’r fframwaith i lunio a datblygu polisi, strategaeth a chynlluniau yn eu sefydliad. Er enghraifft: strategaeth addysgu a dysgu sy’n seiliedig ar werthoedd proffesiynol; adolygiad cymheiriaid ledled y Brifysgol ar gynllun addysgu sy’n ymgorffori’r UKPSF ac sydd wedyn yn cael ei gydnabod ymhellach mewn strwythurau dyrchafu; datblygu a gweithredu dulliau addysgu a dysgu arloesol yn y Brifysgol mewn ymateb i anghenion penodol eu myfyrwyr.

Wrth wraidd y Disgrifydd hwn mae dangos ‘effaith a dylanwad strategol’ yng nghyd-destun un neu ragor o leoliadau, sefydliadau neu gyrff. Bydd angen i dystiolaeth felly dynnu ar ‘gylchoedd’ neu ‘lefelau’ o ddylanwad gan gynnwys tystiolaeth wedi’i dynnu o leoliadau sefydliadol, cenedlaethol ac/neu ryngwladol. Mae’r pwyslais ar ‘gofnod o effaith parhaus ac effeithiol’ yn golygu y byddai’n anarferol iawn tystiolaethu Disgrifydd 4 ar sail cwblhau rhaglen neu gwrs yn unig. Fodd bynnag, gellid ystyried cwblhau rhaglen neu gwrs perthnasol (mewn arweinyddiaeth, er enghraifft) fel rhan o’r dystiolaeth, ond ni fyddai hynny ar ei ben ei hun yn ddigonol ar gyfer arddangos y Disgrifydd yn llwyddiannus.

Gan fod Disgrifydd 3 a Disgrifydd 4 yn gwbl wahanol nid oes angen cyflwyno tystiolaeth (gydag ychwanegiadau neu hebddynt) ar ôl cael Disgrifydd 3. Fodd bynnag, efallai y byddai’n briodol tynnu ar dystiolaeth a ddarparwyd eisoes ar gyfer Disgrifydd 3, er mwyn rhoi cefndir a chyd-destun ar gyfer y datblygiadau a ddefnyddir i dystiolaethu Disgrifydd 4.  Byddai angen tystiolaeth ychwanegol berthnasol gyda hwn eich bod wedi dehongli a chymhwyso Dimensiynau Disgrifydd 4 yn eich gwaith presennol.