Dimensiynau’r UKPSF

Ar y dudalen hon:

  • Pam fod tri Dimensiwn?
  • Sut mae’r Dimensiynau yn cysylltu â’i gilydd?
  • Sut y dylwn ddangos tystiolaeth fy mod wedi ymwneud â’r Meysydd Gweithgarwch? (A1-5)
  • Sut y dylwn ddangos tystiolaeth o fy nealltwriaeth o’r Wybodaeth Graidd briodol? (K1-6)
  • Sut y dylwn ddangos tystiolaeth fy ymrwymiad i’r Gwerthoedd Proffesiynol? (V2-4)

Pam fod tri Dimensiwn yn yr UKPSF?

Mae’r rhain yn adlewyrchu cymhlethdod a natur amlochrog rôl broffesiynol staff sy’n addysgu a staff cynorthwyo dysgu.

 Mae tri chasgliad o ddatganiadau yn y Dimensiynau a’r rheiny’n amlinellu’r canlynol:

  • 5 Maes Gweithgarwch sy’n cael eu gwneud gan staff addysgu a staff sy’n cynorthwyo dysgu mewn Addysg Uwch
  • 6 agwedd ar Wybodaeth Graidd sydd eu hangen er mwyn gwneud y gweithgareddau hynny ar y lefel briodol
  • 4 o Werthoedd Proffesiynol y dylai person sy’n cyflawni’r gweithgareddau hynny eu coleddu a’u harddangos 

Sut mae’r Dimensiynau yn cysylltu â’i gilydd?

Mae’r UKPSF yn enwi elfennau gwahanol a geir mewn rolau addysgu a chynorthwyo dysgu. Caiff y rhain eu cyfleu yn nimensiynau’r UKPSF. Fodd bynnag, wrth gyflawni rolau addysgu a chynorthwyo dysgu mewn gwirionedd, bydd yr holl Ddimensiynau i’w gweld i raddau amrywiol. Bwriad y diagram uchod yw dangos natur ryngweithiol y tri Dimensiwn.

Sut gallaf ddangos tystiolaeth fy mod wedi ymwneud â’r Meysydd Gweithgarwch?

Tystiolaeth o Faes Gweithgarwch A1: Dylunio a chynllunio gweithgareddau  dysgu ac/neu raglenni astudio

Fel arfer ar raddfa fach y bydd tystiolaeth o Ddylunio a Chynllunio Gweithgareddau Dysgu mewn cyswllt â Disgrifydd 1, a’r rhain fel rheol yn weithgareddau ac/neu sesiynau unigol. Byddai hyn yn amrywio o gynllunio modiwl i gynllunio rhaglen astudio gyfan ar gyfer Disgrifydd 2 a’r rheiny sy’n gweithio tuag at Ddisgrifydd 3. Ym mhob achos, byddai disgwyl i’r cynllunio adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n datblygu o ddimensiynau’r Wybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol.

Tystiolaeth o Faes Gweithgarwch A2: Addysgu ac/neu gynorthwyo dysgu

Wrth arddangos gweithgareddau addysgu a chynorthwyo dysgu, dylai’r dystiolaeth ddangos ymwybyddiaeth sy’n cynyddu o ymagweddau a dulliau gwahanol o addysgu a chynorthwyo dysgu, yn ogystal â gallu cynyddol i ddewis y dull mwyaf priodol ar gyfer cyflawni nodau cwricwlwm.

Tystiolaeth o Faes Gweithgarwch A3: Asesu dysgwyr a rhoi adborth iddynt

Byddai disgwyl gwahaniaethu clir ynghylch sut y dangosir tystiolaeth o’r maes hwn ar gyfer y gwahanol Ddisgrifyddion. Er enghraifft, ar gyfer Disgrifydd 1 byddai’n briodol dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd asesu ac adborth a meini prawf i roi barn wybodus a ffurfiannol am waith, a’r rôl sydd gan hyn wrth gynorthwyo dysgu drwy weithgareddau megis tiwtorialau, lleoliadau gwaith, arsylwadau, a gwaith ymarferol. Ar gyfer Disgrifyddion 2 a 3 byddai pwyslais cynyddol ar y defnydd o ddulliau adborth ac awgrymiadau ar gyfer y dyfodol sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd i wella dysgu a datblygu annibyniaeth dysgwyr. Ar gyfer Disgrifydd 4 gallai’r ffocws fod ar sffêr ehangach o ddylanwad mewn polisïau ac arferion sy’n ymwneud ag asesu ac adborth wrth gynorthwyo dysgu.

Tystiolaeth o Faes Gweithgarwch A4: Datblygu amgylcheddau dysgu effeithiol ac ymagweddiadau tuag at gymorth ac arweiniad i fyfyrwyr

Mae’r diffiniad o ‘amgylcheddau dysgu’ wedi cael ei herio yn eang ac mae sawl ffordd o’i ddehongli. Mae ymarferwyr unigol yn gweithio y tu hwnt i amgylchedd ffisegol yr ystafell ddosbarth, y labordy, stiwdio neu weithle neu’r amgylchedd dysgu o bell neu ddysgu electronig. Maent yn ystyried natur yr amgylchedd dysgu, y diwylliant dysgu sy’n cael ei ddatblygu, a natur a maint y seilweithiau cymorth; maent hefyd yn gallu gwahaniaethu rhwng ymyriadau academaidd a bugeiliol. Mae unigolion hefyd yn rhoi ystyriaeth i amrywiaeth yr amgylcheddau sydd ar gael i fyfyrwyr, yn ogystal â sut y maent yn cael eu galluogi i gael gafael arnynt, eu deall a’u defnyddio.

Tystiolaeth o Faes Gweithgarwch A5: Ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus yn eich pynciau/disgyblaethau a’u pedagogeg, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthuso arferion proffesiynol.

Mae’r UKPSF yn cynnig ffordd bwerus o gyfleu agweddau amrywiol ar rolau gwahanol a’r potensial ar gyfer datblygu ym mhob maes addysgu a chynorthwyo dysgu. Mae’r Maes Gweithgarwch hwn yn ymwneud â gwella ac mae iddo dair elfen sy’n annatod i rolau addysgu a chynorthwyo dysgu. Er y gellid ystyried y tair elfen yn holistig, mae’n bwysig deall a dangos yr elfennau ar wahân, yn enwedig o ran Disgrifyddion 1 a 2, er mwyn sicrhau integreiddio llwyddiannus.

Dyma’r tair elfen:

  1. Datblygiad proffesiynol parhaus mewn pynciau/disgyblaethau a’u pedagogeg
  2. Ymgorffori ymchwil ac ysgolheictod
  3. Gwerthuso (eich) arferion proffesiynol (eich hun)

Gallai tystiolaeth ganolbwyntio’n briodol ar y cwestiwn: Sut gallai unigolyn ddangos eu bod wedi dod yn well athro/athrawes trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, trwy ymchwil a thrwy werthuso eu hymarfer sy’n gysylltiedig â dysgu ac addysgu?

Sut ydw i’n dangos tystiolaeth o fy nealltwriaeth o’r Wybodaeth Graidd briodol?

Y ffordd hawsaf o ddangos tystiolaeth o’r Dimensiwn Gwybodaeth Graidd yw drwy’r Meysydd Gweithgarwch. Er enghraifft, byddai dylunio a chynllunio gweithgaredd dysgu (Maes Gweithgarwch 1) yn llwyddiannus yn cael ei bennu yn sgil defnyddio dulliau addysgu a dysgu priodol (Gwybodaeth Graidd 2), dealltwriaeth o sut mae’r myfyrwyr dan sylw yn dysgu (Gwybodaeth Graidd 3) a’r defnydd o dechnolegau dysgu priodol (Gwybodaeth Graidd 4). Mae cysylltu’r Wybodaeth Graidd â Meysydd Gweithgarwch yn rhoi mwy o gydlyniad a dyfnder i’r dystiolaeth ac yn adlewyrchu’n fwy cywir realiti arferion gweithio.

Tystiolaeth o Wybodaeth Graidd K1: Deunydd y pwnc

Gellir dangos tystiolaeth o’r maes hwn yn effeithiol drwy gyfeirio at y Meysydd Gweithgarwch neu feysydd eraill Gwybodaeth Graidd. Dylai tystiolaeth ymwneud yn sylfaenol â sut y defnyddir dealltwriaeth o natur y pwnc fel sail i ddylunio a chynllunio gweithgareddau dysgu a rhaglenni astudio, strategaethau addysgu, yr asesu a’r adborth. Byddai hyn fel arfer yn cyfeirio at natur, neu ddiwylliant, unigryw y ddisgyblaeth a disgwyliadau penodol yr addysgu; y materion neu’r heriau sy’n codi o’r cyd-destun y digwydd y dysgu ynddo, a’r dulliau priodol o gyflwyno’r pwnc ar wahanol lefelau (e.e. israddedig blwyddyn gyntaf i lefel meistr).

Tystiolaeth o Wybodaeth Graidd K2: Dulliau priodol o addysgu a dysgu ym maes y pwnc ac ar lefel y rhaglen academaidd

Mae hwn yn ymwneud â dulliau pedagogaidd sy’n unigryw ac/neu’n nodweddiadol o’r pwnc, neu’r hyn sy'n gwneud yr addysgu neu’r cynorthwyo dysgu yn y pwnc yn wahanol i addysgu pwnc arall. Mae hefyd yn ymwneud â chydnabod y gall rhai dulliau fod yn fwy priodol nag eraill o ystyried natur y dysgu a ddymunir, lefel y deunydd sy’n cael ei addysgu a pharodrwydd y myfyrwyr. Mae hyn wedi’i gysylltu’n glir â dangos Gwybodaeth Graidd 1 gyda’i ffocws ar ddeall deunydd y pwnc, ond mae’n ymwneud yn benodol â’r strategaethau a’r ymagweddau a ddefnyddir i addysgu neu gynorthwyo dysgu’r pwnc.  

Tystiolaeth o Wybodaeth Graidd 3: Sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn gyffredinol ac ym maes/meysydd eu pwnc/disgyblaeth?

Gellid dangos tystiolaeth ynghylch sut mae myfyrwyr yn dysgu trwy ddangos sut y mae deall nodweddion dysgwyr gwahanol (fel myfyrwyr hŷn, myfyrwyr sydd newydd adael yr ysgol neu ddysgwyr yn y gweithle) yn effeithio ar sut y gellir diwallu eu hanghenion yng nghyd-destun dysgu; sut y gallai hyn adlewyrchu ar yr amgylchedd dysgu, ar y dulliau addysgu ac ar arferion. Gellid cyfeirio at wahanol ddamcaniaethau neu ddulliau dysgu a sut y ceir tystiolaeth o’r rhain trwy ddefnyddio gwahanol strategaethau ar gyfer addysgu a chynorthwyo dysgu. Gallai hyn ymwneud yn benodol â natur y pwnc (Gwybodaeth Graidd 1).

Tystiolaeth o Wybodaeth Graidd 4: Defnyddio a gweld gwerth technolegau dysgu priodol

Mae’n rhaid i dystiolaeth ddangos sut a pham y mae technolegau penodol, o bob math ac oedran, yn cael eu defnyddio’n briodol i gynorthwyo dysgu. Bydd y dystiolaeth yn mynd i’r afael â beth yw’r anghenion dysgu ac addysgu a pham y defnyddir technoleg benodol i ymdrin â hwy. Mae tystiolaeth yn debygol o fod yn gysylltiedig â meysydd eraill Gwybodaeth Graidd, er enghraifft: sut a pham y caiff technoleg ei defnyddio mewn disgyblaeth, meysydd proffesiynol neu alwedigaethol penodol; ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr; mewn cyd-destunau ac amgylcheddau dysgu penodol.

Tystiolaeth o Wybodaeth Graidd 5: Dulliau o werthuso effeithiolrwydd yr addysgu

Rhan hanfodol o waith mewn Addysg Uwch yw sicrhau effeithiolrwydd arferion addysgu. Mae hyn yn canolbwyntio ar y dulliau (ffurfiol neu anffurfiol) a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth a data am effaith yr addysgu, sut y cânt eu defnyddio ac effaith eu defnyddio ar ddatblygu.

Sut y dylwn ddangos tystiolaeth o ymrwymiad i’r Gwerthoedd Proffesiynol?

Ffocws y Gwerthoedd Proffesiynol yw onestrwydd ac unplygrwydd yr ymarferydd unigol. Mae’r ffordd y bydd y rhain i’w gweld yn debygol o fod yn wahanol os bydd gan yr unigolyn waith academaidd (gweithio o fewn disgyblaeth academaidd) o gymharu â gweithiwr proffesiynol (sy'n gweithio mewn maes proffesiynol neu alwedigaethol). Bydd llawer yn dibynnu ar y cyd-destun ac ar natur eu gwaith.

Ystyrir gwerthoedd proffesiynol yn aml i fod ymhlyg mewn ymarfer proffesiynol; ychydig o sicrwydd bod hyn yn wir sydd yna, fodd bynnag. Mae’r UKPSF yn cyfleu sut y dylai’r gwerthoedd proffesiynol fod yn sail bendant i addysgu a chynorthwyo dysgu mewn addysg uwch; mae’n ei gwneud yn ofynnol eich bod yn dangos yn benodol ‘ymrwymiad i’r holl werthoedd proffesiynol’.

Fel yn achos y dimensiynau eraill mae’n ddigon buddiol gwahanu’r gwahanol elfennau er mwyn sicrhau dealltwriaeth o bob un, ond mewn gwirionedd mae’r gwerthoedd proffesiynol yn gorgyffwrdd ac wedi’u hintegreiddio i ymarfer unigol ac ymarfer sefydliadol. Er enghraifft, mae Gwerthoedd Proffesiynol yn effeithio ar y Wybodaeth Graidd a’r Meysydd Gweithgarwch trwy lywio’r gweithgarwch a’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth mewn ffordd anymwybodol bron. Mae dangos tystiolaeth o’r Gwerthoedd Proffesiynol yn digwydd mewn lleoliad sydd ynddo’i hun yn adlewyrchu gwerthoedd drwy genhadaeth a diwylliant y sefydliad, er y gall y pwyslais yn hyn o beth newid dros amser. Gall unigolion eu hunain roi pwyslais a phwysigrwydd gwahanol ar werthoedd yn eu hymarfer proffesiynol ac, fel pob gwerth, maent yn anodd eu tystiolaethu.

Tystiolaeth o Werthoedd Proffesiynol yn Nisgrifyddion 1, 2 a 3

Bydd tystiolaeth o ymrwymiad ymarferol i’r gwerthoedd proffesiynol wedi’i chysylltu’n amlwg â lefel y sylw i werthoedd y sefydliad/brifysgol a sut y mae’r rhain yn dylanwadu ar addysgu a dysgu. Mae’r dystiolaeth hefyd yn gysylltiedig â defnyddio a chyfathrebu agweddau ac ymddygiad cadarnhaol. Yn y broses o achredu rhaglen, bydd hyn yn cael ei arddangos drwy archwilio’r ffyrdd y mae prosesau’r sefydliad (megis dyrchafu ac adolygu neu arfarnu datblygiad) yn adlewyrchu’r Gwerthoedd Proffesiynol. Gallai hyn fod trwy gyd-fynd â Gwerthoedd Proffesiynol UKPSF yn natganiadau’r sefydliad/brifysgol ar eu gwerthoedd eu hunain.

Tystiolaeth o Werthoedd Proffesiynol yn Nisgrifydd 4

Mae’r Gwerthoedd Proffesiynol i’w gweld mewn tystiolaeth o ‘ddealltwriaeth ac ymrwymiad i ddefnydd a gwerth yr UKPSF’. Mae hyn yn gosod Gwerthoedd Proffesiynol wrth wraidd pam fod pethau’n cael eu gwneud mewn ffordd arbennig, beth y mae’r unigolyn yn ei ystyried yn bwysig a’r dyheadau a’r grymoedd sy’n gyrru eu gwaith. Gallai tystiolaeth o hyn dynnu ar enghreifftiau o sut y mae dyletswydd a chyfrifoldeb personol unigolyn i’r Gwerthoedd Proffesiynol yn dylanwadu ar eu hymarfer.

Tystiolaeth o Werthoedd Proffesiynol 1: Parchu dysgwyr unigol a chymunedau dysgu amrywiol

Mae hwn yn canolbwyntio ar y ffordd y mae addysgu a chynorthwyo dysgu yn ymgorffori gweithgareddau, gweithredu a dulliau sy’n parchu dysgwyr unigol. Mae’n darlunio’r ffyrdd rydym yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio ag unigolion a gwahanol gymunedau yng nghyd-destun addysgu a chynorthwyo dysgu. Efallai y bydd y term ‘cymunedau dysgu amrywiol’ yn cynnwys grwpiau myfyrwyr ar y campws, cyfathrebu electronig, cymunedau sy’n seiliedig ar waith, neu gellid ei ddiffinio ar sail ethnigrwydd, ffydd, dosbarth cymdeithasol, oedran ac ati. Mae angen i’r ymarferydd fedru dangos eu bod yn gwerthfawrogi ac yn gallu gweithio’n effeithiol o fewn y cymunedau amrywiol hyn a gyda nhw.

Tystiolaeth o Werthoedd Proffesiynol 2: Hyrwyddo cyfranogiad mewn addysg uwch a chydraddoldeb cyfle i ddysgwyr

Mae’r ffocws fan hyn ar ddarparu tystiolaeth o sut mae ymrwymiad i gyfranogiad mewn AU a chydraddoldeb cyfle i ddysgwyr yn sylfaen i ymarfer sy’n ymwneud ag addysgu a chynorthwyo dysgu.  Mae potensial ar gyfer cynnwys sbectrwm eang o weithgareddau, ymagweddau ac ymddygiad sy’n gysylltiedig â’r holl Feysydd Gweithgarwch a Gwybodaeth Graidd. Yn ddelfrydol, dylai’r dystiolaeth ddangos dulliau eang a threiddiol at sicrhau cydraddoldeb cyfle.

Tystiolaeth o Werthoedd Proffesiynol 3: Defnyddio ymagweddau ar sail tystiolaeth a defnyddio canlyniadau ymchwil, ysgolheictod a datblygiad proffesiynol parhaus

Mae hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, y gallu i ddefnyddio a chyfrannu at lawer o ffynonellau tystiolaeth ac i’w defnyddio i lywio addysgu a dysgu. Mae’n ymwneud â defnyddio canlyniadau o ymchwil, ysgolheictod a datblygiad proffesiynol i wneud penderfyniadau egwyddorol, gwybodus ac ystyriol sy’n gwella ymarfer a’r profiad dysgu. Mae’r Gwerth hwn yn hyrwyddo pwysigrwydd mynd ati’n broffesiynol ac yn uniongyrchol i ymchwilio (i addysgu a dysgu) er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol yr unigolyn ei hun ac i wella eu gweithgareddau addysgu neu gynorthwyo dysgu.

Gallai tystiolaeth gynnwys ystyried a chymhwyso canfyddiadau o astudiaethau, darllen, ymholi personol (er enghraifft) i addysgu, dysgu, dysgwyr, y pwnc, yr amgylchedd ac ati i wella ymarfer a phrofiad dysgu’r myfyrwyr. Dylai’r defnydd o ymchwil sy'n seiliedig ar eich disgyblaeth eich hun i wella’r cwricwlwm gael ei lywio gan ddarllen neu ymchwil ynghylch cynllunio cwricwlwm, natur y pwnc ei hun a’r dysgwyr er mwyn darparu sail resymegol ar gyfer cynllun y cwricwlwm a’i gyflwyniad.

Tystiolaeth o Werthoedd Proffesiynol 4:  Cydnabod y cyd-destun ehangach y mae addysg uwch yn gweithredu ynddo, gan nodi’r goblygiadau i ymarfer proffesiynol

Mae hyn yn ymwneud â bod yn effro i’r materion a allai effeithio ar amcanion y Brifysgol ac/neu a allai ddylanwadu ar gynllun y cwricwlwm ac/neu ymarfer proffesiynol personol ac ymarfer ar y cyd ag eraill.  Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, sut y byddai unigolion wedi ymateb i anghenion presennol y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, yr agenda cyflogaeth, neu’r agenda ehangu mynediad a chyfranogiad. Mae agendâu cyfredol yn cynnwys: cynaliadwyedd (ymarfer cynaliadwyedd ac addysg cynaliadwyedd), ac ymgysylltiad myfyrwyr.