Datblygiad Proffesiynol
Mae McCaffrey (2010:206) yn nodi bod datblygu proffesiynol '...yn ymwneud â sefydlu staff mewn ‘cymuned o ymarfer’ er eu budd nhw eu hunain a’r sefydliad’.
Datblygu proffesiynol yw’r broses barhaus o ddiweddaru gwybodaeth, cynyddu dealltwriaeth, datblygu sgiliau a newid agweddau sy’n hybu rhagoriaeth mewn arfer academaidd a phroffesiynol a gall fod ar ffurf:
- Addysg - dyfarniadau ffurfiol hyd at ac yn cynnwys cymwysterau uwchraddedig a phroffesiynol e.e. Cynllun Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth
- Hyfforddi - gweithgareddau dysgu ffurfiol nad ydynt o bosibl yn arwain at gymwysterau sy’n cael effaith ar waith dydd i ddydd e.e. Rhaglen DPP, y Gronfa Datblygu Staff neu Hyfforddiant Arweinyddiaeth
- Datblygu - dysgu anffurfiol yn codi o’r rôl e.e. mentora neu fynychu fforwm staff fel y Fforwm Gweinyddu
Ym Mhrifysgol Aberystwyth anogir yr holl staff i ddatblygu gyda’u rolau, ac mae’n ofynnol iddynt wneud hynny. Dylid ystyried y datblygu hwn ar dair lefel:
- Yn unigol - e.e. drwy gyrff disgyblaeth neu broffesiynol; mentora neu hyfforddi un-i-un; neu ddatblygu personol y tu hwnt i’r amgylchedd gwaith.
- Yn adrannol - e.e. drwy ddyddiau cwrdd i ffwrdd adrannol; gweithgareddau hyfforddi mewnol penodol; sefydlu staff newydd; hyfforddiant rheoli
- Yn sefydliadol e.e. am resymau cydymffurfio cyfreithiol megis Iechyd a Diogelwch neu Warchod Data; cynllunio olyniaeth; polisi a chynllunio
Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae’r tîm datblygu proffesiynol yn hanfodol i ffurfio a datblygu ymchwil ac addysgu o ansawdd byd-eang. Mae’r tudalennau canlynol yn cynnig trosolwg o ddatblygu proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
- Arweinyddiaeth a Rheoli
- Mentora Effeithiol
- Fforwm Staff Gweinyddol
- Fforwm Staff Technegol
- Hyfforddi’r Hyfforddwr
- Cymorth i Fyfyrwyr
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau’n ymwneud â datblygu proffesiynol neu os hoffech siarad â rhywun am gynllunio gyrfa, cysylltwch â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Arfer Academaidd ar cdsap@aber.ac.uk neu (01970) 622117