Fforwm Gweinyddwyr a Staff Clerigol
Mae’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn trefnu digwyddiadau ddwywaith y flwyddyn fel rhan o’r Fforwm Gweinyddwyr sy’n agored i’r holl staff gweinyddol (staff Academaidd, Clerigol ac Ysgrifenyddol).
Cewch ddewis bod yn aelod o’r Fforwm a’i ddiben yw helpu pobl i ddeall rhagor am wahanol swyddogaethau gweinyddol ar draws y Brifysgol a hwyluso cyfathrebu rhwng cydweithwyr yn y swyddogaethau hyn.
Mae aelodau o Fforwm y Gweinyddwyr yn cael gwybodaeth am sesiynau amser cinio, digwyddiadau mewnol ac allanol a gallant ddefnyddio’r safle SharePoint cysylltiedig i ofyn cwestiynau i staff gweinyddol eraill neu ofyn iddynt am gyngor.
Fewngofnodi i Fforwm y Gweinyddwyr
I gael mynediad, anfonwch e-bost at cdsap@aber.ac.uk
Digwyddiadau'r Gorffennol
Cynhadledd Fach i Staff Proffesiynol, Gweinyddol ac Ysgrifenyddol (10 Hydref 2012)