Modiwl Prifysgol Aberystwyth mewn Cynorthwyo Myfyrwyr
Lluniwyd y modiwl hwn ar gyfer pob aelod o staff sy’n ymwneud â myfyrwyr o ddydd i ddydd. Mae’n ceisio rhoi golwg cyffredinol eang ar faterion cynorthwyo myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r sector addysg uwch. Y bwriad, ar ôl i’r aelodau o staff gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, yw y byddant yn gallu deall yr amrywiaeth eang o faterion a allai godi wrth gynorthwyo myfyrwyr ac yn gallu cyfeirio’r myfyrwyr at y gwasanaeth cynorthwyo priodol.
Mae’r rhaglen yn fodiwl achrededig 30-credyd ar lefel 4 FfCChC a ddatblygwyd gan yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd, y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill.
Cynhelir y modiwl ddwywaith y flwyddyn ym mis Medi a mis Ionawr. I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch naill ai â Giles Polglase yn y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd (gop@aber.ac.uk estyniad 2386) neu â Del Harris yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes (hhh@aber.ac.uk estyniad 1762).