Fforwm y Staff Technegol
"Galw'r holl staff technegol!”
- Wyddoch chi fod y sector addysg uwch yng ngwledydd Prydain yn cyflogi mwy na 30,000 o staff technegol?
- Wyddoch chi fod staff technegol yn cynorthwyo â gwaith dysgu ac ymchwil mewn meysydd mor amrywiol â bridio anifeiliaid i ddillad theatr i wyddoniaeth y gofod a gwaith labordy?
- Wyddoch chi fod gan staff technegol eu cymdeithasau eu hunain sy’n hybu addysg a gweithgareddau datblygu i staff technegol?
Bydd y Fforwm yn gyfle i’r staff technegol rannu ymarfer da; cynnig cyfleoedd am hyfforddiant mewnol i gydweithwyr; rhannu gwybodaeth am gyfleoedd cenedlaethol am hyfforddi a datblygu; a bod yn gyfrwng i staff technegol gael cysylltiad â’r Grŵp Defnyddwyr Datblygu Staff.
Mae aelodau o Fforwm y Staff Technegol yn cael gwybodaeth am sesiynau amser cinio, digwyddiadau mewnol ac allanol a gallant ddefnyddio’r safle SharePoint cysylltiedig i ofyn cwestiynau i staff technegol eraill neu ofyn iddynt am gyngor.
Fewngofnodi i safle SharePoint Staff Technegol (Saesneg yn unig)
I gael mynediad, anfonwch e-bost at staff.dev@aber.ac.uk