Hyfforddi’r Hyfforddwr
A ydych chi’n cynnal sesiynau hyfforddi i’r staff neu i’r myfyrwyr? A ydych chi am wella’ch sgiliau? Hon yw’r rhaglen i chi!
Mae Hyfforddi’r Hyfforddwr yn rhaglen o 3 gweithdy hanner diwrnod dwys a fydd yn eich tywys drwy gamau hanfodol cynllunio a chynnal sesiwn hyfforddi effeithiol ac ennyn diddordeb pobl.
Yn ystod y gweithdai ac yn yr amser rhyngddynt, byddwch yn cynllunio ac yn addasu sesiwn hyfforddi go iawn a byddwch yna’n ei chyflwyno i gynulleidfa go iawn. Ar ôl y rhaglen, rydym hefyd yn rhoi cyfle ichi gael sylwadau adeiladol am eich sesiwn hyfforddi.
Er mai canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol parhaus yw’r nod, dylai’r rhaglen fod yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n dysgu ac sy’n ennyn diddordeb grwpiau yn gyffredinol.
Mae’r rhaglen yn agored i bob aelod o staff y Brifysgol. Cynhelir tri gweithdy drwy gyfrwng y Saesneg a chynhelir sesiwn ddewisol ychwanegol i’r rhai sy’n awyddus i gael eu hyfforddi yn Gymraeg. Mae’r rhaglen yn dilyn proses cam wrth gam a chan nad oes llawer o lefydd ar gael, gofynnwn ichi fod ar gael i gymryd rhan yn yr holl weithdai a’ch bod yn darparu hyfforddiant neu’n debygol o wneud hynny yn y dyfodol.
Rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr yn 2011
| Dydd | Amser | Lleoliad |
|---|---|---|
| TBC | 12.00-13.00 | Cyflwyniad i’r Rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr |
| TBC | 09.30-12.00 | Gweithdy 1: Paratoi |
| TBC | 09.30-12.00 | Gweithdy 2: Ennyn Diddordeb |
| TBC | 09.30-12.00 | Gweithdy 3: Adegau Da a Drwg |
| Sesiwn ddewisol yn Gymraeg | ||
| TBC | 09.30-12.00 | Gweithdy 4: Hyfforddi yn Gymraeg |
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â gjl@aber.ac.uk.
Gweithdy 1: Paratoi
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn sôn am y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng dysgu a hyfforddi a’r ffordd y bydd yr elfennau hyn yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer y sesiynau hyfforddi. Byddwn yn ystyried y ffordd yr ydym yn dod i wybod beth yw anghenion ein cynulleidfa, egluro diben y sesiwn a chynllunio sesiynau sy’n cysylltu’r dull â’r canlyniadau a fwriadwyd.
Gweithdy 2: Ennyn Diddordeb
Yn y sesiwn hon, byddwn yn sôn am gynnal y sesiynau a mynd i’r afael â’r cwestiwn allweddol, ‘Sut mae ennyn ddiddordeb y gynulleidfa a chynnal y diddordeb hwnnw?’ Byddwn yn sôn am adegau hollbwysig mewn sesiwn, y dechrau a’r diwedd yn arbennig a thrwy ystyried y syniad o Arddulliau Dysgu, byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o ennyn diddordeb cynulleidfa sydd ag anghenion amrywiol.
Gweithdy 3: Adegau Da a Drwg
Yn y sesiwn hon, byddwn yn ystyried rhai o’r technegau y mae hyfforddwyr yn eu defnyddio i fywiocau sesiynau a delio â’r sefyllfaoedd anodd sy’n gallu codi.
Gweithdy 4: Hyfforddi yn Gymraeg
Mae’r sesiwn ddewisol hon, a gyflwynir yn Gymraeg, yn ystyried y problemau posib y gallai’r rhai sy’n rhoi hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg eu cael. Mae’r rhain yn cynnwys delio â phobl y mae safon eu Cymraeg yn amrywio ynghyd â therminoleg arbenigol .
*Bydd y sesiwn Arddulliau Dysgu yn cynnwys holiadur ar-lein y bydd yn rhai ei lenwi cyn y gweithdy.