Cronfa Ddata Ymyriadau Dysgu

Datblygodd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd adnodd digidol ar-lein i gefnogi staff dysgu a staff sy’n ymgymryd â’r cymhwyster TUAAU. Mae dros 300 o enghreifftiau o ymyriadau dysgu wedi cael eu llwytho i fyny i CADAIR, sef cadwrfa ar-lein Prifysgol Aberystwyth.

Galluogwyd datblygiad y Prosiectau Ymyriadau Dysgu gan ddyfarniad Cronfa Gwella Dysgu ac Addysgu. Gwnaeth y prosiect hefyd gyflogi myfyriwr graddedig o IBERS, sef Simon Cameron, ar gynllun lleoliad gwaith GO Wales am chwe wythnos dros yr haf.

Gwnaeth y prosiect ddigideiddio’r prosiectau ymyriadau dysgu sy’n ffurfio elfen ganolog y portffolios a gyflwynwyd gan ymgeiswyr ar y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch ers 2002.

Mae’r themâu yr ymdrinnir â hwy yn yr ymyriadau dysgu yn amrywio o ddefnyddio technoleg wrth gyflwyno darlith i annog dysgu dwfn a gweithredol, a gall hefyd fod yn ddefnyddiol i aelodau o staff sydd â diddordeb mewn gwella eu dysgu yn barhaus.

Cadair

Mae’r adnodd ar gael ar-lein ar: http://cadair.aber.ac.uk/  o dan yr adran Addysg a Dysgu Gydol Oes; neu cliciwch ar y llun Cadair ar y dde.

Cysylltwch â pgcthe@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.