Nodau ac Amcanion

Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau addysgu uwchraddedigion sydd eisoes yn addysgu yn eu hadrannau.  Bydd hyn yn rhoi sylfaen i chi mewn arfer da wrth addysgu ac yn datblygu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd o ran addysgu mewn Addysg Uwch.

Crynodeb o'r Cynnwys

1                          

Dadansoddiad o anghenion a chynllun DPP

2

Rhaglen gynefino ym Mhrifysgol Aberystwyth

3

12 awr o ddigwyddiadau DPP (sy’n gysylltiedig ag addysgu)

4

Arsylwi ar eich addysgu dair gwaith

5

3 chyfarfod mentora gyda mentor a 2 gyfarfod mentora gyda thîm y rhaglen.  (Y dadansoddiad o anghenion a’r cynllun DPP ar ddechrau’r rhaglen fydd un o’r cyfarfodydd hyn)