Croeso
Y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd sy’n cynllunio a chyflwyno’r rhan helaeth o ddatblygiad addysgol a phroffesiynol y staff yn y Brifysgol. Mae’r ganolfan yn darparu rhaglen flynyddol o sesiynau, digwyddiadau a gweithdai datblygu proffesiynol parhaus, ond mae hefyd yn cyflwyno nifer o raglenni astudio achrededig ac anachrededig. Mae’r ganolfan hefyd yn chwarae rhan mewn datblygiad cyfundrefnol ac mae’n rheoli cyfres o ddyfarniadau a chronfeydd.
Ein dull o weithredu
- Ein dull o weithredu yw bod yn rhagweithiol wrth ddod o hyd i gyfleoedd i gysylltu â staff a’u cefnogi yn eu datblygiad personol.
- Fe’ch anogir i gysylltu â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd i drafod eich anghenion datblygu proffesiynol.
Ein Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw proffesiynoli arferion gweithio mewn grŵp a gweithio unigol ym mhob agwedd ar fusnes y Brifysgol. Mae’r rhai sy’n broffesiynol yn eu gwaith:
- Yn cymryd cyfrifoldeb personol am eu swyddogaeth;
- Yn rhagweithiol;
- Yn dysgu o brofiad ac yn ymdrechu’n gyson i wella;
- Yn rhyngweithio a chyfathrebu’n effeithiol ag eraill.
Diben ein holl ddarpariaeth a chefnogaeth yw helpu staff i wella’r agweddau hyn ar arfer broffesiynol.
Rheolaeth y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd
Caiff gwaith y Ganolfan ei reoli gan y Pwyllgor Datblygu Staff a’i gyfarwyddo gan y Grŵp Defnyddwyr Datblygu Staff. Ceir rhagor o wybodaeth am sut mae’r Ganolfan yn gweithredu, gan gynnwys gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau a’r Pwyllgor Datblygu Staff yma.