Archif

Yma gallwch ddarllen am newyddion a digwyddiadau blaenorol y Ganolfan.

Diwrnod Shwmae Su'mae 15fed o Hydref

Diwrnod Shwmae Su'mae

‌Hydref 15, 2014 fydd yr ail dro inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg. 
Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle inni atgyfnerthu a dathlu'r Gymraeg a'r ffyrdd y byddwn ni’n cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg ledled Cymru. 

*Digwyddiadau*

  • Gwers Gymraeg Rhyngweithiol ar Radio’r Bae
  • 10% i ffwrdd yn TaMed Bach, IBER Bach a Blas Padarn wrth ofyn am de neu goffi yn Gymraeg
  • 10% i ffwrdd yn Gegin Pantycelyn a Blas Gogerddan wrth ofyn am bris te neu goffi yn Gymraeg
  • 10% i ffwrdd yn Starbucks a The Underground wrth ofyn am eich archeb yn Gymraeg
  • Cadwch lygad allan am ‘Dweud yr Enw’- help llaw i chi ynganu enwau lleoedd defnyddiol
  • Cerddoriaeth a Pherfformiadau byw
  • Lansio Proffiliau Dysgwyr
  • Dewch i dorri Record y Byd am y nifer fwyaf o bobl yn gwneud Dawns Nantgarw tu allan i Ganolfan y Celfyddydau.

 

Dewch yn llu i gefnogi’r diwrnod. Os hoffech helpu ar y diwrnod cysylltwch â Gwenno ar gwe11@aber.ac.uk

 

Yn y cyfamser, hoffwch ein tudalen Facebook a dilynwch ni ar Trydar er mwyn darganfod 'Gair Cymraeg y Dydd' a chefnogwch ein hymgyrch ni ar Thunderclap er mwyn lledaenau'r neges am Ddiwrnod Shwmae Su' mae 2014. 

‌‌‌

Gwyliwch ein fideo am y Cynllun Iaith Gymraeg.

Y Cynllun Iaith Diwygiedig

Lansiwyd y Cynllun Iaith Gymraeg Diwygiedig ar 11 Ebril 2014 ym mhresenoldeb yr Is-Ganghellor a Llywydd y Brifysgol.

 Llongyfarchiadau i Ganolfan y Celfyddydau am ennill y dystysgrif AUR wrth ymrwymo i Siarter Iaith Ceredigion.

 

Agorwyd Ystafell Ddysgu'r Gangen yn swyddogol gan Elin Jones AC ar 8 Mawrth am 12.30.

Gwyl Dewi Sant 2013  Mawrth 1 - 8

Ymunwch yn y dathlu - cliciwch Gwyl Dewi Sant 2013 am fanylion.

Logo melyn CCC Lansiwyd Cangen Aberystwyth o'r Coleg Cymraeg ar 19 Mawrth 2012.

Cliciwch yma i weld gwefan y Gangen.

Cliciwch yma i wylio fideo o'r lansiad

Darllenwch gylchlythyr y Gangen.

Cylchlythyr Cangen CCC

Cefnogaeth ieithyddol i fyfyrwyr.

Sesiynau gloywi iaith am ddim yn dechrau cyn bo hir.  Cliciwch yma am fanylion.

Gweithdai Datblygu Staff Cenedlaethol

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal cyfres o weithdai Datblygu Staff i bawb yn y sector addysg uwch sy'n dymuno derbyn hyfforddiant sgiliau proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mwy o wybodaeth am raglen 20011-12 Coleg Cymraeg Cenedlaethol

gwobrau THE Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg ar restr fer Gwobrau'r THE

Enwebwyd Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg am wobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch 2010 y Times Higher Education a chyrhaeddodd y rhestr fer yn y dosbarth Tîm Cofrestrfa Neilltuol.

App ar gyfer Dysgu Cymraeg

App newydd i gynorthwyo pobl i ddysgu Cymraeg. Ar gael i'r iPhone, iPod touch a'r iPad. I gael gwybod mwy ewch i www.cwrsmynediad.com

Logo Siarter Iaith Ceredigion  Siarter Iaith Ceredigion

Llongyfarchiadau i'r Ganolfan Chwaraeon am fod yr adran gyntaf yn y Brifysgol i ymrwymo i Siarter Iaith Ceredigion.

Newydd Clwb Coffi

Beth am ddefnyddio mwy o'ch Cymraeg trwy ddod i'r Clwb Coffi misol. Cynhelir y rhain ar gampws gwahanol bob mis.