Polisi Dwyieithog
Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg ers Rhagfyr 2003. Wrth fabwysiadu’r Cynllun mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r Cynllun yn nodi sut y bydd y Brifysgol yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd, sef staff, myfyrwyr, darpar fyfyrwyr a’r cyhoedd cyffredinol, yng Nghymru.