Strategaeth Sgiliau Dwyieithog
Y prif ddatblygiad a geir yn y Cynllun Diwygiedig yw’r Strategaeth Sgiliau Dwyieithog. Mae cymal 6.2(11) yng Nghynllun Iaith 2003 yn nodi y bydd y Brifysgol yn mabwysiadu Strategaeth Sgiliau Dwyieithog fel rhan o’r broses gynllunio adnoddau dynol. Paratowyd y Strategaeth mewn ymgynghoriad ag Adnoddau Dynol, Grŵp Gweithredol y Cynllun Iaith Diwygiedig a’r Cydbwyllgor ar Ddefnyddio’r Gymraeg. Ymgynghorwyd hefyd â’r Uwch Dîm Rheoli, Penaethiaid Adrannau, Canolfannau a Gwasanaethau a’r undebau llafur ym Mai 2008.
Amcan y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog
Prif amcan y Strategaeth yw cynorthwyo’r Brifysgol i weithredu ei Chynllun Iaith yn briodol mewn perthynas â staffio a darparu gwasanaeth i’r cyhoedd fel y diffinnir yn y Cynllun. Bwriad y Strategaeth yw trin y Gymraeg fel sgil ac mae’n ymateb sydd wedi’i gynllunio’n strategol er mwyn rheoli sgiliau cyfathrebu’r Brifysgol. Mae’r Strategaeth hefyd yn ystyried yr egwyddor o gydraddoldeb a sut y mae’r Brifysgol yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn ieithoedd swyddogol mewn addysg a gweinyddiaeth.