Cyflwyniad i'r Cynllun
Cyn llunio’r Cynllun Iaith Gymraeg roedd y Brifysgol yn gweithredu polisi dwyieithog ers yr 1960au ac roedd mabwysiadu’r Cynllun Iaith yn fodd o ffurfioli ei hymrwymiad i weithredu’n ddwyieithog yn unol â gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Y ddeddfwriaeth fwyaf arwyddocaol hyd yma mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae’r Ddeddf, sy’n gosod y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn pwysleisio tair agwedd:
- Cyfrifoldeb ar y sector cyhoeddus yng Nghymru i drin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru;
- Hawl sylfaenol i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r Gymraeg yn y llys;
- Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i arolygu'r modd y gweithredir yr addewidion hyn ac i hyrwyddo a chefnogi defnydd o'r iaith Gymraeg
Cyrff cyhoeddus a Deddf yr Iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith 1993 yn nodi camau penodol i’w dilyn gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys Sefydliadau Addysg Uwch, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau iechyd ac asiantaethau’r llywodraeth (yn ogystal â sefydliadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru ond sy’n darparu gwasanaeth i Gymru) wrth baratoi a gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg. Mae’r cynlluniau hyn yn nodi pa wasanaethau a fydd ar gael yn Gymraeg a sut a phryd y byddant yn cael eu cyflwyno.
Mae gweithrediad Cynlluniau Iaith Gymraeg yn cael ei arolygu gan y cyrff cyhoeddus eu hunain ac, o 1 Ebrill 2012, gan y Comisiynydd Iaith. Disgwylir i sefydliadau baratoi adroddiadau blynyddol ar gynnydd y Cynllun, a bydd y Cynllun yn parhau hyd nes y bydd Safonau newydd wedi eu cytuno.
Mesur Iaith Gymraeg 2011
Mae'r mesur yn :
- creu system newydd i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy'r Gymraeg (golyga hyn y bydd Safonau Iaith yn cymryd lle Cynlluniau Iaith yn y dyfodol)
- creu Comisiynydd Iaith Gymraeg newydd sydd â phwerau cryf i orfodi cydymffurfiaeth, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau trwy'r Gymraeg
- sefydlu Tribiwnlys Iaith Gymraeg newydd
- rhoi'r hawl i unigolion a chyrff i apelio yn erbyn penderfyniadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
- creu cyngor Partneriaeth Iaith Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effaith ei pholisïau ar y Gymraeg;
- caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio’n swyddogol i achosion lle gwelir ymgais i amharu ar ryddid unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.