- Adref »
- Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg »
- Cwestiynau a Holir yn Aml
Cwestiynau a Holir yn Aml
-
Beth yw'r Cynllun Iaith Gymraeg?
- Mae’r Cynllun Iaith yn egluro sut mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu cyflwyno ei gwasanaethau’n ddwyieithog i’r cyhoedd. Mae’r cyhoedd yn cynnwys staff a myfyrwyr yn ogystal â’r cyhoedd a darpar-fyfyrwyr yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth a gynigir yn cynnwys yr addysg a gyflwynir i fyfyrwyr a’r ddarpariaeth weinyddol a roddir i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd.

Pam fod angen Cynllun Iaith ar y Brifysgol?
- Fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru, mae’n ofynnol i’r Brifysgol fod â Chynllun Iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Aberystwyth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Rhagfyr 2003 a rhoddwyd iddo statws statudol.

Beth yw safbwynt y Brifysgol ar hyn?
- Mae’r Brifysgol yn anelu at greu sefyllfa lle y gall aelodau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog y gymdeithas deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio eu dewis iaith gan ddeall natur arbennig y gymdeithas ddwyieithog y maent yn byw ynddi. Mae’r egwyddorion a’r polisïau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg wedi eu hymgorffori yng Nghynllun Iaith y Brifysgol, yn Siarter y Brifysgol ac yn ei Chynllun Strategol.

Ble allaf weld copi o’r Cynllun Iaith?
- Os ydych yn dymuno gweld copi llawn o’r Cynllun gallwch glicio yma neu gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg am gopi papur.
- Fel arall mae’r Canllaw i'r Cynllun Iaith Gymraeg yn ddogfen fer sy’n egluro prif ofynion y Cynllun.
- Os ydych yn dymuno gweld copi llawn o’r Cynllun gallwch glicio yma neu gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg am gopi papur.
-
Nid wyf yn siarad Cymraeg felly a yw’r Cynllun Iaith yn berthnasol i mi?
- Mae darpariaethau'r Cynllun Iaith yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol ac y mae'n hollbwysig fod staff y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion y Cynllun Iaith ac yn sicrhau bod gweithredu'r polisi dwyieithog, a chofio am yr angen i wneud hynny, yn dod yn rhan annatod a chwbl naturiol o'u gwaith bob dydd.
- Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn rhoi cyngor ar bob agwedd o’r Cynllun Iaith; cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr.
- Mae darpariaethau'r Cynllun Iaith yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol ac y mae'n hollbwysig fod staff y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion y Cynllun Iaith ac yn sicrhau bod gweithredu'r polisi dwyieithog, a chofio am yr angen i wneud hynny, yn dod yn rhan annatod a chwbl naturiol o'u gwaith bob dydd.
-
Sut fydd y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog yn effeithio arnaf i?
- Mae’r Strategaeth wedi’i hanelu’n bennaf at staff newydd i’r Brifysgol. Ni fydd rheidrwydd o unrhyw fath ar unrhyw aelod o staff presennol i ddysgu Cymraeg. Fodd bynnag un o amcanion y Strategaeth yw cefnogi staff sydd yn dymuno gwneud hynny, ac mae’n bosibl y bydd ambell aelod staff yn cael eu gwahodd i ddysgu neu wella eu Cymraeg os yw proffil ieithyddol eu hadran yn gwarantu hynny.

Sut ydw i’n anfon gwaith i’w gyfieithu?
- Ceir canllawiau ar sut i wneud hyn yma.

Mae gennyf neges frys i’w hanfon at grŵp o bobl ar e-bost, a oes angen iddi fod yn ddwyieithog?
- Dylai gohebiaeth at grŵp o bobl fod yn ddwyieithog bob tro, gyda’r Gymraeg yn uchaf neu ar y chwith i’r Saesneg. Mae’r Uned Gyfieithu yn rhoi blaenoriaeth i gyfieithu gohebiaeth ond os yw’r neges ar frys mawr dylid cysylltu â’r Ganolfan ar unwaith er mwyn egluro’r sefyllfa a threfnu cyfieithiad.

Oes rhaid i bopeth rwy’n ei ysgrifennu fod yn ddwyieithog?
- Mae’n rhaid i ddogfennau a ddosberthir yn eang ymhlith aelodau’r adran, y Brifysgol neu’r cyhoedd yng Nghymru fod yn ddwyieithog. Gall y Ganolfan ddarparu cyngor a chefnogaeth ichi os nad ydych yn siŵr beth ddylech ei wneud.

Oes rhaid i mi ateb y ffôn yn ddwyieithog?
- Dylai pawb sy’n bwynt cyswllt cyntaf mewn adran neu swyddfa ateb y ffôn yn ddwyieithog pa un ai ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio. Dylid cyfarch a rhoi enw’r adran/swyddfa yn Gymraeg yn gyntaf ac yna’n Saesneg. Mae’r Canllaw Staff i’r Cynllun Iaith Gymraeg yn esbonio’r drefn y dylech ei dilyn os nad ydych yn medru ymdrin â galwad yn Gymraeg.

Sut ydw i’n darganfod a yw rhywun yn dymuno derbyn gohebiaeth gan y Brifysgol yn Gymraeg neu’n ddwyieithog?
- Ceir cofnod o ddewis iaith myfyrwyr ar gronfa ddata AStRA a cheir cofnod o ddewis iaith staff ar gronfa ddata Adnoddau Dynol. Os nad ydych yn siŵr gohebwch yn ddwyieithog gan ateb yr ohebiaeth wedyn yn yr iaith a ddewiswyd gan y derbynnydd. Os yw’r unigolyn eisoes wedi gohebu â chi defnyddiwch iaith yr ohebiaeth honno oni nodir yn wahanol.

Beth yw’r drefn ynghylch hysbysebu yn y wasg?
- Dylai pob hysbyseb sy’n cael ei gynhyrchu gan y Brifysgol ac sy’n ymddangos yn y wasg yng Nghymru fod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg ar yr ochr chwith i’r Saesneg, neu yn uchaf. Mewn cyhoeddiadau Cymraeg dylai’r hysbyseb ymddangos yn Gymraeg yn unig.

Ble allaf i gael manylion am wersi Cymraeg?
- Mae manylion am wersi Cymraeg i’w cael yma.

Oes cymorth ar gael i wella fy Nghymraeg ysgrifenedig?
- Ceir manylion am sesiynau gloywi iaith yma.

Rwy’n aelod o staff ac am fynychu gwersi Cymraeg. A fydd rhaid i mi dalu?
- Ceir gwybodaeth am ba staff sy’n gymwys i gael eu hystyried o dan y cynllun hepgor ffioedd ar y ffurflen gofrestru Ffurflen Hawlio Ffioedd / Fee Claim Form (2)
-
Sut allaf i gael gafael ar fathodyn melyn Bwrdd yr Iaith sy’n dangos fy mod yn medru neu’n dysgu siarad Cymraeg?
- Cysylltwch â’r Ganolfan i dderbyn eich bathodyn a chofiwch ei wisgo, yn enwedig yn ystod diwrnodau ymweld a diwrnodau agored y Brifysgol.

Sut allaf i gael gafael ar gopi o’r feddalwedd sillafu a gramadeg Cysgliad?
- Ceir mwy o wybodaeth am y feddalwedd
yma. Os am gopi cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (Paratoi Data : dataprep@aber.ac.uk)

Sut mae gosod rhyngwyneb Cymraeg ar fy nghyfrifiadur?
- Mae gwefan Bwrdd yr Iaith yn egluro sut i lawr lwytho Word a Windows yn Gymraeg. Cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech gyngor pellach.