Pam fod angen Cynllun Iaith ar y Brifysgol?

  • Fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru, mae’n ofynnol i’r Brifysgol fod â Chynllun Iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Aberystwyth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Rhagfyr 2003 a rhoddwyd iddo statws statudol.