Beth yw safbwynt y Brifysgol ar hyn?

  • Mae’r Brifysgol yn anelu at greu sefyllfa lle y gall aelodau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog y gymdeithas deimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio eu dewis iaith gan ddeall natur arbennig y gymdeithas ddwyieithog y maent yn byw ynddi. Mae’r egwyddorion a’r polisïau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg wedi eu hymgorffori yng Nghynllun Iaith y Brifysgol, yn Siarter y Brifysgol ac yn ei Chynllun Strategol.