Gloywi Iaith i Fyfyrwyr

Cyrsiau gloywi a gwella iaith

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion yn bwriadu cynnal dau gwrs gloywi a gwella iaith i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth:

  1. Ysgrifennu’n ffurfiol yn y Gymraeg (Lefel 4 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol)

(Cod Agored Cymru: FN34CY008)

Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio Cymraeg llenyddol at ddibenion academaidd fel, er enghraifft, ysgrifennu traethodau tra, ar yr un pryd, byddwch yn gwella eich gwybodaeth o sut y mae’r Gymraeg yn gweithio.

Anelir y modiwl hwn at fyfyrwyr israddedig sydd am loywi eu Cymraeg er mwyn sefyll Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cwrs 15 awr di-dâl ydyw wedi ei rannu’n 10 sesiwn 1.5 awr; fe’i cynhelir ar ddydd Iau rhwng 12.30 p.m.a 2 p.m.; yn dechrau 8 Tachwedd, 2012.

Dyddiad

Lleoliad

08/11/2012

Ystafell Bwyllgor yr Undeb, Adeilad yr Undeb, Campws Pen-glais

15/11/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

22/11/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

29/11/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

06/12/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

13/12/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

31/01/2013

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

07/02/2013

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

14/02/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

21/02/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais


 

2.       Cyfuno Sgiliau: Ymwybyddiaeth o Ramadeg y Gymraeg (Lefel 3 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) (Cod Agored Cymru: FN33CY420)

Yn y modiwl hwn byddwch yn ymestyn eich ystod o batrymau iaith llafar a llenyddol, tra, ar yr un pryd, byddwch yn gallu defnyddio ystod o batrymau iaith yn gywir wrth siarad ac ysgrifennu a chywiro testunau gwallus.

Anelir y modiwl hwn at fyfyrwyr israddedig sydd am wella eu Cymraeg fel cam cyntaf i baratoi ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol .

Cwrs 15 awr di-dâl ydyw wedi ei rannu’n 10 sesiwn 1.5 awr; fe’i cynhelir ar ddydd Llun rhwng 12.30 p.m.a 2 p.m.; yn dechrau 5 Tachwedd, 2012.

Dyddiad

Lleoliad

 

05/11/2012

Ystafell Hyfforddi, Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, Campws Pen-glais

12/11/2012

Ystafell Hyfforddi, Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, Campws Pen-glais

19/11/2012

Ystafell Hyfforddi, Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, Campws Pen-glais

26/11/2012

Ystafell Hyfforddi, Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, Campws Pen-glais

03/12/2012

Ystafell Hyfforddi, Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, Campws Pen-glais

10/12/2012

Ystafell Hyfforddi, Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, Campws Pen-glais

28/01/2013

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

04/02/2013

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

11/02/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

18/02/2012

Gofod Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adeilad IBERS, Campws Pen-glais

Bydd y ddau gwrs hyn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau a fydd yn gwella eich cyfleoedd gwaith, ynghyd â’ch cefnogi i ddilyn cyrsiau neu wneud gwaith ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Phylip Brake (pjb@aber.ac.uk).