Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn ffynnu wrth i’r Brifysgol fuddsoddi’n fewnol ynddi, a manteisio i’r eithaf ar y cynlluniau cenedlaethol a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg. Sefydliad cenedlaethol yw'r Coleg Cymraeg sy'n chwarae rhan allweddol mewn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Mae gan y Coleg ganghennau ymhob un o brifysgolion Cymru lle cynigir darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, lleolir y Gangen o dan adain Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg.  Mae gan y Brifysgol hefyd ddeiliaid Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg, sef cynllun sy’n hyfforddi darpar ddarlithwyr y dyfodol i gyflwyno eu pynciau’n Gymraeg. Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg wedi’u dynodi yn feysydd arweiniol drwy’r Gymraeg yn genedlaethol.

Prosiect Edward Llwyd

Mae’r Ganolfan yn gartref i Swyddog Prosiect Edward Llwyd sy’n gweithio ar ran y sector i hyrwyddo’r gwyddorau’n Gymraeg. Am ragor o wybodaeth cysyllter â fmg@aber.ac.uk

Gwerddon

Mae’r Ganolfan yn gartref i Gynorthwyydd Golygyddol Gwerddon, sef cyfnodolyn academaidd ar-lein sy’n gyfrwng i gyhoeddi erthyglau amlddisgyblaethol yn Gymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth ar www.gwerddon.org.

Mantais

Am wybodaeth bellach am fanteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ymwelwch â gwefan yr ymgyrch genedlaethol, Mantais.

Y Porth

Mae gwefan Y Porth yn hwyluso cydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch ac mae’r Brifysgol yn cynnig ac yn manteisio ar fodiwlau cydweithredol. Ceir nifer o adnoddau agored a chyfyngedig ar y wefan hon ac fe’i defnyddir gan fyfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg.