Ysgoloriaethau Ymchwil 2012-13

Mae Prifysgol Aberystwyth yn medru cynnig tair ysgoloriaeth ymchwil cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2012-13
Amaeth: Cynnyrch Anifeiliaid
Gwahoddir ceisiadau am ysgoloriaeth PhD mewn Gwyddor Cynhyrchu Anifeiliaid yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth i gychwyn ar 1 Hydref 2012. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel rhan o’i Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil. Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth ymchwil yn ogystal ag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir i’r deiliad ddatblygu deunydd ac yna darlithio ar systemau cynnyrch anifeiliaid trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr Blwyddyn 1 a 2 dros gyfnod yr Ysgoloriaeth. Bydd disgwyl hefyd i’r deiliad osod llwyfan i ddatblygiadau pellach gyda myfyrwyr Blwyddyn 3. Yn ogystal bydd y deiliad yn sefydlu cynllun ymchwil ar gyfer gradd PhD yn y gwyddorau anifeiliaid. Yn ôl pob tebyg bydd yr ymchwil ym maes gwyddor gwartheg godro neu faes cysylltiedig. Bydd y deiliad yn derbyn hyfforddiant ymchwil yn ystod blwyddyn gyntaf y ddoethuriaeth yn ôl arfer y Brifysgol. Ceir manylion am ddiddordebau ymchwil staff presennol yr adran ar y wefan adrannol http://www.aber.ac.uk/cy/ibers/
Am fwy o wybodaeth am Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i weithgareddau eraill: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr Ysgoloriaeth hon, cysylltwch ag aberystwyth@colegcymraeg.ac.uk

Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Gwahoddir ceisiadau am ysgoloriaeth ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth i gychwyn ar 1 Hydref 2012. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel rhan o’i Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil. Rhydd gyfle gwych i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig mewn adran o ragoriaeth fyd-eang a chyfrannu at raglen ddysgu cyfrwng Cymraeg yr adran, gan hyrwyddo cenhadaeth y Coleg. Gwahoddir ceisiadau wrth unigolion sydd â diddordebau ymchwil mewn unrhyw faes sy’n gysylltiedig â Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn arbennig wrth rai sydd â phwyslais ar un o’r is-feysydd canlynol: Cudd-wybodaeth, Diogelwch, Hanes Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Y Trydydd Byd neu Strategaeth. Ceir manylion am ddiddordebau ymchwil staff presennol yr adran ar y wefan adrannol: http://www.aber.ac.uk/cy/interpol/ Disgwylir i’r deiliad ddatblygu deunydd a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr israddedig am hyd at 5 awr yr wythnos o’i (h)ail flwyddyn ymlaen.
Am fwy o wybodaeth am Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i weithgareddau eraill: www.colegcymraeg.ac.uk
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr Ysgoloriaeth hon, cysylltwch ag aberystwyth@colegcymraeg.ac.uk
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2012

Y Gyfraith a Throseddeg : Troseddeg neu Droseddeg a'r Gyfraith
Gwahoddir ceisiadau am ysgoloriaeth ymchwil cyfrwng Cymraeg yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth i gychwyn ar 1 Hydref 2012. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel rhan o’i Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil. Mae’r Adran yn bwriadu ymestyn ei darpariaeth mewn Troseddeg a Chyfraith, gan ganolbwyntio’n benodol ar Droseddeg. Byddai dyletswyddau dysgu deiliad yr ysgoloriaeth yn cynnwys dysgu ar y cynlluniau gradd LLB a BA, a/neu'r cynllun BA prif bwnc/is bwnc Cyfraith gyda Throseddeg a’r cynllun BScEcon Troseddeg ar lefel israddedig. Y pynciau y disgwylir iddo/i eu dysgu fyddai Cyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol, Cyflwyniad i Droseddeg ac Elfennau o Droseddeg. Croesawir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig sydd â phrofiad academaidd da. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Radd yn yr Ail Ddosbarth Uchaf (neu y disgwylir iddynt dderbyn gradd yn yr Ail Ddosbarth Uchaf) mewn Cyfraith a/neu Droseddeg. Rydym hefyd yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi graddio mewn disgyblaeth arall, ond sydd â chymhwyster lefel Meistr mewn Cyfraith a/neu Droseddeg.
Am fwy o wybodaeth am Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i weithgareddau eraill: www.colegcymraeg.ac.uk
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr Ysgoloriaeth hon, cysylltwch ag aberystwyth@colegcymraeg.ac.uk
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2012