Gwneud Cais am Gyfieithiad
Mae pob adran yn ystyried eu cyfieithiadau fel blaenoriaeth ac rydym yn gwneud ein gorau glas i ddeall eich anghenion a dychwelyd cyfieithiadau’n brydlon. Ein bwriad yw gweithredu system deg i’r holl adrannau, swyddfeydd a chanolfannau, a phwysleisiwn fod angen derbyn dogfennau mewn da bryd er mwyn cyflawni’r gwaith mewn amser rhesymol.
Sut i anfon gwaith?
- Anfonwch y darn yn electronig at cyfieithu@aber.ac.uk gan nodi'r canlynol:
- Manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, adran/swyddfa)
- Teitl y ddogfen
- Nifer y geiriau
- Amcangyfrif pryd fydd angen dychwelyd y ddogfen
- Unrhyw sylwadau eraill
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd eich gwaith a’r manylion yn cael eu cofnodi ar y gronfa ddata o waith cyfieithu a bydd cyfieithydd yn cael ei glustnodi i’r gwaith cyn gynted â phosibl. Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau ein bod wedi derbyn y gwaith ac os bydd gennym gwestiwn am yr amserlen byddwn yn cysylltu â chi i drafod. Gallwch holi am hynt y gwaith drwy anfon e-bost at cyfieithu@aber.ac.uk neu ffonio estyniad 2045.
Dychwelyd cyfieithiadau
Byddwn yn dychwelyd y cyfieithiad at yr unigolyn sydd wedi anfon y gwaith neu'r sawl a enwebir ganddo ef / ganddi hi. Anogwn adrannau i sicrhau mai un person sy’n gyfrifol am anfon gwaith i’w gyfieithu ar ran yr adran gan fod hyn yn sicrhau nad yw’r un ddogfen yn cael ei hanfon i’w chyfieithu fwy nag unwaith. Cofiwch gadw’r cyfieithiad yn ddiogel ar ôl ei dderbyn. Os fyddwch chi’n diwygio’r ddogfen yn y dyfodol byddwn yn gofyn am y fersiwn Cymraeg er mwyn gwneud y diwygiadau.