Adnoddau Ieithyddol

Termau Prifysgol Aberystwyth

Dyma gronfa o dermau safonol a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cysylltwch â ni os oes gennych derm i’w ychwanegu at y gronfa.

Taflenni Cymorth

Cefnogaeth benodol wedi’i theilwra i staff Prifysgol Aberystwyth i’w cynorthwyo wrth weithredu’r Cynllun Iaith Gymraeg. Templedi, geirfa, brawddegau ac enwau adrannau ac adeiladau.

Cronfa Ddata Genedlaethol o Dermau

Cronfa o dermau lle y gellir chwilio am derm penodol yn fyw ar y we a llwytho geiriaduron cyfan i gof cyfieithu.

Term Cymru

Cronfa derminoleg sy'n cael ei chynnal a'i chadw gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Y Termiadur

Cronfa a ddatblygwyd fel un o brosiectau Uned Technolgeau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.

Cynllun Sabothol

Cynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynyddu nifer yr athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr dwyieithog yng Nghymru.

Cysgliad

Pecyn cyfrifiadurol ar gyfer eich PC yw Cysgliad ac mae’n eich helpu i gywiro camgymeriadau ieithyddol yn Gymraeg ac yn cynnwys geiriadur. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cysgliad ac i gael gwybod mwy am ddefnyddio’r pecyn ar eich cyfrifiadur cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth.(Paratoi Data : dataprep@aber.ac.uk)

Cymarfer

Cwrs gloywi iaith ar-lein ar wefan y Cynllun Sabothol. Ceir cwrs Cymarfer Colegau hefyd ac mae'n bosibl ei lawrlwytho yma neu gellir benthyg y cryno ddisgiau o Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg (cysyllter â'r Swyddog Datblygu'r Gymraeg : gws@aber.ac.uk)

Myfyrwyr yn Benodol

Sgiliau Astudio

Cyfres o daflenni cymorth yn seiliedig ar weithdai a gyflwynwyd gan Elin ap Hywel, Awdur Preswyl y Brifysgol.

Y Porth

Llwyfan e-ddysgu ar gyfer y Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg sy’n cynnwys adnoddau dysgu ac addysgu a gwybodaeth am fodiwlau cydweithredol a ddysgir drwy’r Gymraeg.

Gwerddon

Cyfnodolyn academaidd ar-lein sy’n cyhoeddi erthyglau ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau.