Gwyliau Ysgol
Clwb Gwyliau Penglais
Mae Clwb Gwyliau Penglais yn cael ei gynnal yn y Feithrinfa ar Campws Penglais yn ystod y gwyliau ar gyfer plant rhwng 3-11 oed. Mae yn derbyn plant Staff, Myfyrwyr a’r Gymuned.
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys nofio, ymweld a’r parc, cerdded, gemau a thripiau ar y bws mini. Anogir chwarae rhydd er mwyn i’r plant gael cyfle i ymlacio a mwynhau eu hun yn ystod y gwyliau.
Clwb Gwyliau Plas Penglais
Mae Meithrinfa Plas Gogerddan yn cynnal ei clwb yn Neuadd William Davies, yn IBERS, Gogerddan.Mae’r clwb ar gyfer plant rhwng 4-11 oed. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth yna cysylltwch a Mrs Emma Healy, Gofalwraig Plant:- plasgogerddan@brighthorizons.com, 01970 823100
Dewisiadau Eraill
- Mae Canolfan Hamdden Plascrug yn cynnig amrywiaeth o sesiynnau yn ystod gwyliau ysgol.
- Am wybodaeth ychwanegol yng nglun a chlybiau gwyliau, ewch i wefan 'Ceredigion County Council Children’s Information Service (CIS)' Search Facility for Childcare.