Diweddariad Clirio 2011

Nid oes gan Brifysgol Aberystwyth leoedd Clirio nac Addasu i fyfyrwyr. Rydym wedi cael cynnydd o 35% yn yr ymgeisiadau ers 2009 ac mae mwy a mwy o’n hymgeiswyr yn dewis Aberystwyth fel eu dewis cyntaf.

Fe’ch gwahoddwn yn gynnes i’n Diwrnod Agored nesaf ym mis Medi i chi weld drosoch eich hun pam mae Aberystwyth mor boblogaidd, ac edrychwn ymlaen at gael eich cais ar gyfer mynediad yn 2012.

Hannah Complin – Gwyddor Ceffylau
Worcester
Beth yw eich hoff beth am Aberystwyth?
Mae’r holl ddarlithwyr yn gefnogol iawn... Rydw i ar ganol fy nhraethawd hir yn fy mlwyddyn olaf, a gallaf gysylltu gyda fy nhiwtor traethawd hir unrhyw bryd. Dwi hyd yn oed wedi anfon ebost ati am 1 o’r gloch y bore ac wedi derbyn ymateb 10 munud yn ddiweddarach! Wn i ddim pam ei bod ar ddihun! Mae wedi ateb pob cwestiwn. O, a’r traeth. Gallu mynd lawr i’r traeth i ymlacio