Amdanom Ni
Gellir ystyried mai disgyblaeth beirianyddol yw ein maes, a dyna sut yr ydym yn dysgu’r pwnc yn Aberystwyth. Mae peirianneg yn ymwneud â defnyddio egwyddorion gwyddonol, a’ch dyfeisgarwch, i sicrhau’r ateb gorau posibl i broblem. Mae’n weithgaredd creadigol oherwydd ei fod yn chwilio am atebion sy’n rhai cain yn ogystal â bod yn ymarferol ac yn rhai y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro. Mae hefyd yn golygu bod yn systematig a phroffesiynol fel y gall eraill gael hyder bod eich ateb yn un cadarn a fydd yn gweithio’n gyson ac yn ddibynadwy.
Mae’r cynnyrch sy’n cael eu hadeiladu gan beirianwyr meddalwedd yn dod yn rhan o system sy’n cynnwys defnyddwyr dynol a’u sefydliadau, a’r rheini â’u nodweddion cymdeithasol, ariannol a chyfreithiol eu hunain. Mae’n rhaid inni ddeall y sefydliadau hyn a gweithio gyda hwy, ac mae ein cyrsiau yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol o fewn cyd-destun eang y byd busnes. Mae dyfodiad y rhyngrwyd wedi arwain at alw am fathau newydd o atebion meddalwedd sy’n addas ar gyfer y byd newydd hwn sy’n newid mor gyflym.
Mae’r Adran Cyfrifiadureg yn Aberystwyth wedi ei hen sefydlu ond mae’n parhau i symud gyda’r oes. Ar hyn o bryd mae gennym 60 aelod o staff dysgu, ymchwil ac ategol a thua 450 o israddedigion. Mae gennym gysylltiadau clòs ag adrannau eraill yn Aberystwyth a thu hwnt, a pherthynas waith gadarn â diwydiant. Mae galw mawr ymhlith cyflogwyr am ein graddedigion a’n myfyrwyr sy’n treulio blwyddyn mewn diwydiant.
Fe welwch fod staff ein hadran yn broffesiynol ac yn gweithio ar ffin fwyaf blaengar y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg, ond eu bod hefyd yn gyfeillgar ac yn hawdd troi atynt. Rydym yn eich cynghori’n gryf i drefnu ymweliad â ni er mwyn gweld drosoch eich hun.
Barnodd Good University Guide y Times mai dyma un o adrannau Cyfrifiadureg gorau’r Deyrnas Unedig o ran dysgu ac ymchwil.