Eich cyflogadwyedd - mae o bwys i ni
Pan fyddwch yn astudio yn yr Adran Gyfrifiadureg, gwella’ch cyflogadwyedd fydd un o’n prif flaenoriaethau. Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol i wella’ch cyflogadwyedd. Isod, cewch fraslun o’r hyn sy’n cael ei gynnig.
Blwyddyn 1
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cymryd rhan mewn penwythnos gweithgareddau. Bydd y penwythnos hwn yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau rhyngbersonol, datrys problemau ac adeiladu tîm.
Blwyddyn 2
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn cymryd rhan mewn digwyddiad gyrfaoedd yn Neuadd Gregynog a fydd yn canolbwyntio ar wella’ch cyflogadwyedd. Cewch arweiniad ar eich CV a sut i roi cyflwyniad, a chewch gyfle i gael cyfweliadau ffug gyda diwydianwyr go iawn. Bydd yn gyfle i chi fagu’ch hyder a pharatoi ar gyfer y byd gwaith.
Blwyddyn mewn Cyflogaeth – Blwyddyn 3 (dewisol)
Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr i dreulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant cyfrifiadurol rhwng ail a thrydedd blwyddyn eu cwrs gradd. Mae cymorth ar gael gan yr adran a Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol i ddod o hyd i leoliadau addas ac i ddatblygu’ch CV a’ch sgiliau cyfweld. Mae galw am ein myfyrwyr Blwyddyn mewn Diwydiant ymhlith cyflogwyr mawr eu bri, fel IBM, HP a Microsoft.
Y Flwyddyn Olaf
Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn paratoi i gael swydd ar ddiwedd eich cwrs. Cynhelir sgyrsiau am gynllunio i wneud ceisiadau am swydd, penderfynu ar lwybr gyrfa a ffyrdd effeithiol o gysylltu â darpar gyflogwyr. Gallwch hefyd drefnu sesiwn un i un gyda’r gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd.
Mae’ch prosiect mawr yn rhan bwysig o’ch blwyddyn olaf; mae’n gyfle i chi gyflawni prosiect unigol sylweddol sy’n arddangos eich gallu. Bydd hyn o ddiddordeb mawr i gyflogwyr.
Uwchraddedigion
Ar ein rhaglenni uwchraddedig drwy gwrs, bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth arbenigol uwch y mae’r diwydiant yn awyddus i gael hyd iddyn nhw. Mae llawer o’r myfyrwyr ar y cyrsiau hyn eisoes yn weithwyr proffesiynol profiadol ac yn gwybod o’u profiad cymaint o alw sydd am arbenigedd cyfoes yn y meysydd hyn.
Gwasanaeth Darlithoedd
Drwy gydol eich cyfnod yma, cewch ddarlithoedd gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd am nifer o wahanol destunau, gan gynnwys: ysgrifennu CV, rhoi cyflwyniadau effeithiol, profion seicometrig, canolfannau asesu ac ati. Yn ychwanegol at y darlithoedd a amserlennir, bydd nifer o weithdai ychwanegol a sesiynau galw heibio ad hoc ar gael drwy’r flwyddyn. Bydd hyn oll yn eich helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.
Cynllun Datblygu Personol (CDP)
Mae’r Adran yn annog ei holl fyfyrwyr i ddefnyddio’r CDP. Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu i fynd drwy’r broses o gwblhau’r Portffolio Datblygu Personol.
Proses strwythuredig o hunan-arfarnu, myfyrio, cynllunio a chadw cofnodion yw’r CDP. Ei brif ddibenion yw:
- Helpu myfyrwyr i wella ansawdd eu dysgu a’u perfformiad academaidd
- Cynorthwyo prosesau datblygu personol, gan gynnwys sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y dyfodol
- Sicrhau bod gan fyfyrwyr yr arfau sy’n eu galluogi i gynllunio er mwyn cyrraedd eu targedau.
Mae dyletswydd ar y myfyrwyr i gymryd rhan ym mhroses y CDP a sicrhau bod eu Portffolio CDP yn gyfoes.
Mae’r CDP yn ymwneud â bywyd, gwaith ac astudio. O’i ddefnyddio’n effeithiol, bydd yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’n oedolion cyflawn, blaengar a medrus sy’n barod i addasu i sefyllfaoedd newydd, a bydd ganddyn nhw ragolygon da o ran gyrfa, sef yr hyn yr ydym yn ei ddymuno ar gyfer holl raddedigion Aberystwyth.
Beth fydd graddedigion yr Adran Gyfrifiadureg yn ei wneud ar ôl gadael?
Mae’r arolwg Cyrchfannau’r Rhai sy’n Gadael Addysg Uwch (DLHE) yn casglu gwybodaeth am weithgareddau graddedigion ar ôl iddyn nhw adael sefydliad addysg uwch. Ymhlith uchafbwyntiau’r Adran Gyfrifiadureg (2008/2009) mae:
- Graddedigion Aberystwyth â gradd gyntaf mewn Cyfrifiadureg a oedd mewn swydd chwe mis ar ôl graddio, a hynny mewn ‘rôl ar gyfer graddedigion’, o’i gymharu â graddedigion â gradd gyntaf mewn Cyfrifiadureg yn genedlaethol: Aber 87.5%, ffigur cenedlaethol 69.8% (Aber 17.7% yn uwch);
- Roedd graddedigion â gradd gyntaf mewn Cyfrifiadureg o Aberystwyth yn ennill cyflog cychwynnol o £21,798 y flwyddyn hon, sef £3,475 yn fwy na’r ffigur cyfartalog ar gyfer holl raddedigion gradd gyntaf eraill Aberystwyth a oedd mewn swydd amser llawn;
- Tybiwyd bod llai o raddedigion Cyfrifiadureg Aberystwyth yn ddi-waith chwe mis ar ôl graddio na graddedigion Cyfrifiadureg yn genedlaethol: Aber 12.1%, ffigur cenedlaethol 17.1% (Aber 5% yn llai);
- Aeth 45.5% o raddedigion Cyfrifiadureg Aberystwyth, a oedd mewn swydd chwe mis ar ôl graddio, i weithio yn y sector ‘Gweithgareddau Gwybodaeth a Chyfathrebu’ y flwyddyn hon; 25.9% yn genedlaethol;
- Yn yr un modd â’r flwyddyn flaenorol, roedd mwy o raddedigion Cyfrifiadureg Aberystwyth yn ymgymryd â rhyw fath o waith/astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio na graddedigion Cyfrifiadureg yn genedlaethol: Aber 83.1%, ffigur cenedlaethol 80.9% (Aber 2.2% yn uwch);
- Dewch i wybod mwy am ein llwyddiannau diweddar yma.