Dyddiau Agored ac Ymweld

Diwrnodau Agored - Cyn i chi wneud cais.

Estynnwn wahoddiad cynnes i ddarpar fyfyrwyr, eu rhieni, eu hathrawon a'u cynghorwyr i ymweld â ni ar ein Diwrnodau Agored  blynyddol cyn i chi wneud cais. Dyma ddyddiadau Diwrnodau Agored 2012

Dyddiadau Diwrnodau Ymweld

  • Dydd Sadwrn, Chwefror 18, 2012
  • Dydd Mercher, 22 Chwefror, 2012
  • Dydd Mercher, 29 Chwefror, 2012
  • Dydd Sadwrn, Mawrth 3, 2012
  • Dydd Sadwrn, 14 Ebrill, 2012

Os na fedrwch ddod ar ddiwrnod agored gofynnwch i'ch ysgol gysylltu â'r Gwasanaeth Cyswllt Ysgolion a Cholegau. Efallai y gallwn ddod atoch chi.

Diwrnodau Ymweld - Ar ôl i chi wneud cais

Os ydych yn gwneud cais ac yn derbyn cynnig byddwn yn eich gwahodd i ddiwrnod ymweld.

Os hoffech ddod i un o'n dyddiadau ymweld cysylltwch â Gillian Price os gwelwch yn dda ar 01970 622439 neu gmp@aber.ac.uk