Gwybodaeth am Ddyddiau Ymweld

Mae dyddiau ymweld yn yr Adran Cyfrifiadureg yn cynnig y cyfle i chi ddarganfod ai Aberystwyth yw’r lle iawn i chi. Mae Aberystwyth yn lle unigryw sydd nid yn unig yn cynnig cyrsiau rhagorol mewn prifysgol sydd wedi ei hen sefydlu, ac sy’n llawn adnoddau, ond hefyd leoliad gwych mewn tref brydferth a chyfeillgar.

Yn ystod y diwrnod ymweld cewch gyfle nid yn unig i ddysgu popeth ynglŷn â’r radd yr ydych wedi gwneud cais i’w hastudio, ond hefyd i gael gweld y llety, undeb y myfyrwyr, y cyfleusterau chwaraeon a’r llyfrgelloedd – yn wir, popeth y bydd arnoch angen ei weld wrth ichi benderfynu ym mhle y dylech dreulio ychydig flynyddoedd nesaf eich bywyd.

Trefniadau Dyddiau Ymweld

Bydd dyddiau ymweld fel arfer yn cychwyn am 1.30pm ac yn gorffen am 5.00pm gyda the a chyfle i sgwrsio’n anffurfiol gyda staff a myfyrwyr. Cynhelir y cofrestru yn Swyddfa Gyffredinol yr Adran Cyfrifiadureg, sydd ar lawr gwaelod Adeilad Llandinam ar Gampws Penglais yn Aberystwyth. Mae croeso hefyd i’ch teulu a’ch ffrindiau ddod i ymweld gyda chi.

Cludiant a Llety

Trên: I ymwelwyr sy’n cyrraedd ar y trên 13.19 ceir gwasanaeth bws am ddim o’r orsaf i’r campws. Bydd y bws yn gadael am 5.00pm mewn pryd ar gyfer y daith adref. I’r rhai ohonoch a fydd yn cyrraedd ar wasanaethau eraill, mae’n bosibl cerdded i fyny’r allt o’r orsaf drenau i’r campws mewn tua 15 munud. Mae tacsis ar gael yn yr orsaf hefyd, a bydd y daith yn costio tua £3.00. Mae bysiau cyhoeddus sy’n cynnig gwasanaeth o amgylch y dref hefyd yn rhedeg o’r orsaf i’r campws.

Bws: Ceir bws o dde Cymru i Aberystwyth, sy’n galw yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerfyrddin a sawl tref arall ar y ffordd. Ceir hefyd fws o Birmingham. Mae bysiau lleol yn cysylltu Aberystwyth â gorllewin a chanolbarth Cymru.

Car: Os ydych yn teithio yma mewn car byddwch yn cyrraedd prif fynedfa’r campws ar Riw Penglais. Wedi ichi fynd drwy’r brif fynedfa, ewch yn syth ymlaen ac fe welwch sawl maes parcio at ddefnydd y cyhoedd. 

Llety: Mae gan Aberystwyth lawer o westai a llety gwely a brecwast, a cheir rhestr ohonynt yn y daflen amgaeedig. Gweler hefyd http://www.aber.ac.uk/cy/visitor/overnight-accommodation/

Costau Teithio

Bydd yr Adran Cyfrifiadureg yn talu costau teithio pob ymgeisydd, gan gynnwys 100% o gost tocynnau trên neu fws dwyffordd cyffredin neu 20c y filltir os ydych yn teithio mewn car. Bydd ffurflenni costau ar gael i’w llenwi yn ystod y diwrnod ymweld.

Sut i Gofrestru

Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw dewis ar ba ddyddiad yr hoffech ymweld ag Aberystwyth a llenwi’r ffurflen arlein, yn ddelfrydol o leiaf wythnos cyn eich ymweliad. Bydd o gymorth inni drefnu’r diwrnod os gallwch roi gwybod cod y cwrs yr hoffech ei ddilyn, sut y byddwch yn teithio a faint o bobl a fydd yn dod yn gwmni ichi. Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer eich ymweliad, megis parcio i’r anabl, byddem yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod inni ymlaen llaw. Dolen i'r ffurflen arlein.

Ddim ar gael ar y dyddiadau yma?

Os nad ydych yn gallu dod i Aberystwyth ar adeg diwrnod ymweld, gallwn drefnu taith unigol ichi o amgylch yr Adran gydag aelod o’r staff.