Cystadleuaeth Animeiddio Scratch i Ysgolion Cynradd yng Nghymru

Cefnogir gan:

Kano – ‘A Computer Anyone Can Make’.

Pi-top – ‘We Make The Future’.

Crëwch animeiddiad 90 eiliad o hyd yn darlunio un o’r categorïau isod:

  • Cerdd gan Eurig Salisbury. Eurig oedd Bardd Plant Cymru 2011-13. 
  • Chwedl Gymreig (e.e. o’r Mabinogion).

Mae Eurig wedi rhoi dwy gerdd wahanol i ni ar gyfer y gystadleuaeth eleni:

Dad!

Dad, dwi’n hoffi dy dei,
Mae’n lliwgar a, hei,
Dwi’n hoffi dy wallt …
Ti’n dallt?

Dad … ga’i geffyl bach rhwydd
Yn anrheg pen blwydd?
Un ceffyl bach, plîs,
Plîîs, plîîîs?

Dad, ga’i geffyl smwt ei drwyn
A hi rei ben? Ga’i ddal y ffrwyn?
Ga’i un â llygaid bywiog, bach
Heb strach?

Dad, un ciwt a’i got fel sidan
A chlep ei garnau fel swn taran?
Un sy’n neidio’n uchel uchel …
Ie wel?

Dad, os ca’i dwi’n addo, addo
Yr edrycha’i a ei ôl o,
Ac mi fydda’ i’n dda am hir …
Go wir!

Eurig Salisbury

Dewi’r Dewin

Roedd Dewi’n ddewin pwysig,
Roedd Dewi’n ddewin mawr,
Roedd Dewi’n nabod pob un wrach
A chawr.

Roedd Dewi’n ddewin dawnus,
Roedd ganddo hudlath hir
A swynion o bob math, a dweud
Y gwir.

Roedd Dewi’n ddewin rhysgfawr,
Roedd ganddo glogyn glas
A het fawr big a wisgai wrth
Fynd mas.

Roedd Dewi’n ddewin enwog,
Roedd Dewi’n ddewin prudd …

Ond tagodd ar ryw gneuen fach
Un dydd,

A dyna ni.

Eurig Salisbury

GWOBRAU:

Ar draws y ddau gategori, byddwn yn dewis y pedwar ymgais gorau. Bydd pob ymgais buddugol yn ennill naill ai Cit Cyfrifiadur Kano, neu Liniadur Pi-top.

Bydd pob ymgais buddugol hefyd yn ennill ‘Diwrnod Codio’ ar gyfer eu hysgol gynradd. Ar gyfer y ‘Diwrnod Codio’ bydd staff o’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dod i’r ysgol gynradd ac yn cyflwyno diwrnod o weithdai codio.

Bydd yr holl wobrau ar gyfer y ceisiadau buddugol yn cael eu cyflwyno i’r ysgolion cynradd a restrwyd yn y cyflwyniad.

CYFLWYNO:

I gofrestru eich bwriad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, e-bostiwch eich manylion (a manylion eich ysgol) i man27@aber.ac.uk. Byddwch yn cael dolen i ffolder Dropbox er mwyn i chi allu ychwanegu eich cyflwyniad iddi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi categori eich cais a’ch bod yn cynnwys eich manylion cyswllt chi a manylion cyswllt eich ysgol gynradd.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 31 Gorffennaf, 2018.