Proffilau graddedigion

Jon Shire

Ar ôl sawl blwyddyn o weithio yn y diwydiant cyfryngau, penderfynais i symud tuag at y maes dyluniad meddalwedd gan obeithio y byddai’n ehangu ar fy sgiliau dyluniad graffeg ac effeithiau gweledol, sgiliau sy’n dibynnu ar allu i raglenni. Mae’n well gyda fi amgylchedd personol i weithio ynddo, felly mae Aberystwyth yn le perffaith i mi. Mae gan yr Adran strwythur cadarn wrth ddysgu, ond caiff fyfyrwyr gefnogaeth gydag unrhyw prosiectau personol, naill ai o ran cyngor neu drwy ddefnydd o gyfleusterau a chyfarpar. Gallwch fanteisio ar hyn o gwmpas eich astudiaethau. Wnaiff hyn eich annog chi i fod yn greadigol ac yn hyblyg. Er enghraifft, yn fy nhraethawd estynedig yn ystod fy mlwyddyn olaf, wnes i ymgorffori gêm realiti rhithwir (VR) fel rhan o brosiect personol. Roeddwn i’n un o’r rhai myfyrwyr cyntaf i ddefnyddio’r ystafell VR i arddangos fy ngwaith ac enillais i radd uchel, oherwydd, mae’n siŵr, fy mod wedi cynllunio’r prosiect fy hun. At hynny, ers i fi adael Aberystwyth, dw i wedi dechrau cwmni unwaith eto, sy’n darparu profiadau VR rhyngweithiol. Dw i’n canolbwyntio’n bennaf ar fynediad i gemau VR i bobl anabl ar hyn o bryd. Ond dw i’n gwneud mwy na freuddwydio’n unig. Gall y flwyddyn ddiwydiannol opsiynol fod yn hynod o lesol i chi hefyd. Ces i’r profiad o weithio i gwmni meddalwedd blaengar sy’n datblygu offer CAD ar gyfer peirianneg drydanol. Oherwydd fy lleoliad, ces i gyfle i wella fy CV ynghyd â swydd lawn-amser ar ôl i fi raddio. Dw i ar hyn o bryd yn gweithio i’r un cwmni! Doeddwn i ddim yn disgwyl i syrthio mewn cariad ag Aberystwyth neu’r Adran Gyfrifiadureg ei hun. Mae’r staff ymysg y bobl fwyaf cefnogol yr ydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd â nhw, neu i ddysgu gyda nhw. Yn syml, ni ddylwn i fod lle’r ydw i heddiw heb gyfleusterau’r adrannau neu ymdrech y bobl a’m harweiniodd.

Adam Jones

Penderfynais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ychydig o flynyddoedd cyn oeddwn i’n gallu ymgeisio! Roeddwn i’n caru’r lle gan fy mod wedi dod sawl gwaith ar wyliau gyda fy nheulu i Geredigion ac roeddwn i’n llawn cyffro i astudio Cyfrifiadureg ar ôl ysgol uwch. Nawr, fel athro Cyfrifiadureg ac Electroneg, dw i wrth fy modd yn gweld grŵp o gyfrifiadurwyr potensial ifanc yn ymddiddori ac yn mwynhau’r datblygiadau technolegol rhyfeddol sydd ar gael iddynt! Mae mwy a mwy o ysgolion cynradd yn y DU yn darparu plant gydag amryw ieithoedd rhaglennu a thechnegau, ac mae ein cyfrifoldeb ni fel graddedigion yw cefnogi’r maes addysg gan gefnogi ac addysgu’r cenhedlaeth nesaf o bobl ifanc! Mae gan bob un o’r myfyriwr yr ydw i â’r fraint o’u haddysgu y potensial i feddwl o syniad, datblygu darn o feddalwedd neu fod yn rhan o dîm o beirianwyr sy’n cynhyrchu technolegau newydd a chynhyrfus. Mae hwn yn ffaith gynhyrfus i fi! Mewn gwlad sydd â phobl ifanc sy’n awyddus am wersi Cyfrifiadureg, cwricwlwm cenedlaethol sydd wastad yn ehangu a diffyg o raddedigion sy’n fodlon dilyn gyrfa mewn addysg, mae’n amser cynhyrfus i ymgymryd â rôl addysgu! Dw i newydd wedi dechrau yn fy swydd, a dw i’n awyddus i barhau gyda hi. Dw i’n ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am y cyfleoedd y ces i yno i ddatblygu, gweithio a thyfu. Mae’r Brifysgol yw’r lle a wnaeth arwain fy nealltwriaeth academaidd ac a’m helpodd i fod yr athro yr ydw i nawr.

Didi Gradinarska

Wnes i astudio Cyfrifiadura’r We a Gweinyddiaeth Systemau gydag un flwyddyn mewn lleoliad diwydiannol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wnes i raddio yn 2016. Dechreuodd fy angerdd tuag at y cwrs o’m dewis tra oeddwn i dal yn yr ysgol uwch a dyma’r hyn a wnaeth i mi ddilyn addysg y tu hwnt i’r ffiniau o’m gwlad, a’m harweiniodd i Aberystwyth. Yn ystod y cwrs hwn, roeddwn i’n gweithio gydag amryfal ieithoedd rhaglennu a dysgais i lawer am Weinyddiaeth Systemau, a ches i’r cyfle i ennill profiad o dopigau sy’n gysylltiedig â busnes. Mewn unrhyw brifysgol, gall fyfyriwr dderbyn addysg o sawl topig sy’n gysylltiedig â’i radd, ond yn Aberystwyth fe gewch chi fwy na hynny. Fel myfyrwraig ryngwladol, llwyddais i ymdopi â gwahaniaethau rhwng ieithoedd mewn amser byr oherwydd gofal a sylw y staff ar dyfiant personol y myfyrwyr. Enillais i, dim ond addysg, ond y cam cyntaf o’m gyrfa o’r Brifysgol hon, a ches i lawer o gyfleoedd i hyfforddi am gyfweliadau a chanolfannau asesiad. Mae dod o hyd i rywun sy’n credu ynddoch chi ydy’r cam cyntaf o ddod o hyd i’r swydd o’ch breuddwydion a dyma sut y gwnaeth y staff i mi deimlo. Dechreuodd fy nghefnogaeth gyda dysgu a gwnaeth staff fy helpu i ddod o hyd i leoliad gyda GE Corporate. Blodeuodd fy angerdd am dechnoleg yno ac es i ymlaen i gael swydd raddedig gyda GE Healthcare yn y Raglen Arweinyddiaeth Dechnoleg Ddigidol. Nawr, dw i’n dysgu ac yn datblygu’n bersonol o hyd, yn gweithio ar wahanol prosiectau sydd ag effaith fasnachol go iawn a dechreuodd popeth gyda chymuned gefnogol Aberystwyth. Dw i’n ddiolchgar pob dydd.

David Adejumo

Bydd David yn graddio yn yr haf o’r Adran Gyfrifiadureg gyda gradd mewn Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, gan gynnwys flwyddyn ddiwydiannol integredig. Mae’n mynd i weithio i GE yn Cheltenham yn niwydiant awyrennau. Bydd David yn ymgymryd â Rhaglen Ddatblygiad Peirianneg Edison GE i raddedigion. Mae’r raglen ddwys hon yn cynnwys cyfle i astudio am Radd Feistr ym Mheirianneg. Dysgodd David am y cyfle hwn ar ôl iddo ymgymryd â’i flwyddyn ddiwydiannol gyda GE Oil and Gas yn Newcastle. Dewisodd y cyfle hwn ar gyfer ei flwyddyn mewn diwydiant gan ei fod yn cynnig cyfle iddo ddefnyddio ei sgiliau meddalwedd ar brosiectau sy’n ymwneud â chaledwedd, gan gynnwys mesuriad o ddata archwiliad piblinell. Yn ystod y flwyddyn hon, gweithiodd gyda thimau rhyngwladol yn India ac America, ac mae’n edrych ymlaen tuag at fwy o waith gyda thimau rhyngwladol yn ei leoliad graddedig. Dwedodd David “Mae Aberystwyth wedi fy helpu i sbarduno fy ngyrfa ac wedi rhoi cyfleoedd i fi ddysgu sgiliau meddal, proffesiynol a thechnegol.”

Craig Heptinstall

Yn ystod fy mhum mlynedd yn Aberystwyth, mae fy nealltwriaeth o’r pwnc wedi cynyddu’n aruthrol oherwydd o’r Adran a’r Brifysgol ac, yn bennaf, dw i wedi fy mharatoi i’r byd gwaith. Ers i fi ddod yma, dw i wedi cwrdd â grwpiau o bobl gwych sydd bellach yn ffrindiau i mi, ac wedi cwblhau blwyddyn mewn diwydiant lle roeddwn i’n gweithio ac yn byw yn yr Almaen; dw i wedi gwasanaethu fel llywydd i glwb chwaraeon (badminton), ac ymgymryd â sawl digwyddiadau lleol ac adrannol (rasys rafft elusennol gyda chyd-fyfyrwyr), ac yn fwyaf pwysig dw i wedi ymgymryd â phrosiectau niferus sydd wedi fy annog i weithio y tu hwnt o’m maes cyfarwydd. Dw i wedi graddio erbyn hyn gyda gradd Feistr sy’n achrededig gan y BCS ond, at hynny, dw i wedi sicrhau swydd raddedig yn y maes meddalwedd. Byddaf yn gweithio gyda chyn-fyfyriwr o Aberystwyth, byddaf yn gyfrifol am ysgrifennu a chynnal ystod o feddalwedd ariannol. Dw i’n bwriadu ymweld ag Aberystwyth gymaint â phosib yn y dyfodol, yn enwedig i weld ffeiriau gyrfaoedd lle byddwn yn cynnig cyngor i fyfyrwyr cyfredol ar ddewisiadau gyrfaol, neu hyd yn oed i helpu gyda recriwtiaid ar ran fy nghyflogwr cyfredol. Mae Aberystwyth wedi rhoi gradd werthfawr i fi ond, heblaw am hynny, mae’r cefnogaeth a’r rhyngweithiad gyda staff dysgu a myfyrwyr eraill y ges i yno wedi bod yn lesol i fi, ac mae parch mawr gyda fi tuag at y brifysgol.

Keiron O’Shea

Wnes i raddio o Brifysgol Aberystwyth ym Mehefin 2015 gyda gradd BSc Gyfrifiadureg. Ar ôl i fi fod yn y Brifysgol, wnes i ymgymryd â lleoliad ymchwil pedwar mis ym Mhrifysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg King Abdullah yn Sawdi-Arabia – lle roeddwn i’n gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil gan gynnwys adeiladu ar Aber-OWL a defnyddio dulliau dysgu dwfn i roi ffenoteipiau i ddelweddau’n awtomatig. Dychwelais i Brifysgol Aberystwyth i ymgymryd â phrosiect doethuriaeth tair blwyddyn mewn cysylltiad â’r Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gyda fy ngoruchwyliwr prosiect o’r flwyddyn olaf o’m gradd israddedig. Rhoddodd fy ngradd israddedig Gyfrifiadureg gyfle i fi archwilio amrywiaeth o feysydd gwyddonol. Mae’r Adran Gyfrifiadureg yn ymfalchïo yn ei hymchwil rhagorol a’i chysylltiadau diwydiannol sy’n sicrhau dilysrwydd i’r holl raddau israddedig fel eu bod nhw’n dysgu’r technolegau diweddaraf i roi argraffiad go iawn i’r myfyrwyr o’r hyn y ddylen nhw eu disgwyl yn y byd gwaith. Yn fy marn i, mae’r elfen fwyaf defnyddiol o’r radd yn y flwyddyn gyntaf oedd y modiwl ‘Cyflwyniad i Raglennu’. Fel eraill, des i i Aberystwyth gydag ychydig brin o brofiad o raglennu – ond cynigodd y modiwl hwn gyflwyniad cynhwysfawr i fi o ffwythiannau, newidion a dolenni (loops) yn weddol gyflym ynghyd â’r gallu i ddatblygu fel datblygwr meddalwedd trwy gydol fy ngyrfa academaidd a phroffesiynol. Mae Aberystwyth yn dref unigryw. O bell, rydych chi’n rhyfeddu at y dref a’i phobl. Byddwch chi’n cofio’r tro cyntaf i chi weld y lli, neu fwyta cebab Marcos ar ôl noson Wener o hwyl yn y dref am gyfnod hir ar ôl i chi adael y brifysgol. Mae copa’r bryn ‘Constitution’ yn cynnig golwg lliwgar, bywiog ac amrywiol o’r dref sy’n cynrychioli blas o ryddid ac annibyniaeth i lawer o fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf – i ffwrdd o’ch teulu a chyfyngiadau o ysgol uwch. Ar lefel bersonol, dw i’n ddyledus i’r Adran ac i’r staff. Dw i wedi datblygu’n bersonol ac yn academaidd ers i fi gyrraedd yma yn 2012. Mae’r Adran wedi bod, ac yn dal i fod yn le cefnogol i fi yn ystod yr amserau mwyaf cythryblus ac mae’n anodd iawn i fi adael y lle. Felly, des i yn ôl!