Ysgoloriaethau Adrannol

Ymroddedig i annog ymgeiswyr brwdfrydig o’r radd flaenaf i ddilyn astudiaethau mewn cyfrifiadura.

Mae’r Ysgoloriaeth Adrannol yn cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau ac mae’n rhywbeth gwych i’w roi ar eich CV.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r ymgeisydd naill ai fod wedi ennill Ysgoloriaeth Mynediad y Brifysgol mewn Cyfrifiadureg, neu ennill graddau rhagorol (A*) yn eu harholiadau Safon Uwch, neu gyfwerth. Bydd y wobr yn rhoi £500 y flwyddyn trwy gydol eich cynllun gradd (tair neu bedair blynedd) sy’n rhoi cyfanswm o hyd at £6,800 (yn cynnwys Ysgoloriaeth Mynediad y Brifysgol). ). Caiff y myfyrwyr gadw’r wobr os ydynt yn cael cyfartaledd o 70% neu uwch bob blwyddyn. Mae myfyrwyr anrhydedd cyfun yn gymwys am £250 y flwyddyn.

Efallai y dyfernir gwobrau eraill hefyd yn ôl penderfyniad yr Adran.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ysgoloriaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â cs-admissions@aber.ac.uk