Sgiliau Gweithio mewn Tîm

‌‌Mae gallu gweithio’n effeithiol ac yn hapus mewn tîm yn sgìl hanfodol.

Yn enwedig yn y diwydiant meddalwedd, lle gall fod yn anodd gosod amcanion ar y cyd, a lle gall y swyddogaethau sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion hynny fod yn amrywiol ac yn anodd.

 yFirst Year Students perform a fine balancing act challenge at Gregynog Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgaredd a fydd yn mynd â chi ymaith o Aberystwyth i ddysgu am adeiladu tîm a gwaith tîm mewn ffordd anacademaidd, iach. Caiff myfyrwyr eu rhoi mewn timau a thros y penwythnos byddwch yn mynd i’r afael â chyfres o dasgau a gynlluniwyd i ddangos sut mae timau’n gweithio a beth yw eich cryfderau chi mewn tîm. Bydd y penwythnos hefyd yn gyfle i helpu myfyrwyr y flwyddyn gyntaf ddod i adnabod ei gilydd fel y bydd yn llawer haws iddynt gydweithio ar brosiectau academaidd yn nes ymlaen.

First Year Students arming their ping pong ball cannon at Gregynog Cewch gyfle yn yr ail flwyddyn i roi’r hyn a ddysgoch ar waith, pan fydd yr holl fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiect grŵp. Yn eich prosiect grŵp, byddwch yn cymryd un o’r swyddogaethau a geir mewn diwydiant – megis rheolwr prosiect, cynllunydd neu reolwr sicrhau ansawdd – i greu darn o feddalwedd gweithredol, gan ddilyn arferion diwydiannol gorau’r oes ar bob cam.

First Year Students line up for their well earned group photo at Gregynog Bydd penwythnos ym mhlasty hanesyddol Gregynog yn eich cynorthwyo i fireinio eich sgiliau gweithio mewn tîm a bydd yn gyfle hefyd i chi gael adborth ar eich CV ac ar eich techneg mewn cyfweliad.