Ynglŷn â'n Graddau
Mae cynlluniau gradd yr Adran Cyfrifiadureg wedi eu cynllunio ar batrwm modiwlar hyblyg. Cewch wybodaeth angenrheidiol am y pwnc a meithrin y sgiliau craidd mewn modiwlau sy’n cyfateb i tua dwy ran o dair o’ch astudiaethau. Wedyn gallwch ddewis naill ai arbenigo mewn un o nifer o feysydd cyfrifiadurol neu ehangu’ch profiad trwy ddewis modiwlau o adrannau eraill.Bydd myfyrwyr anrhydedd cyfun yn treulio hanner eu hamser yn astudio Cyfrifiadureg a hanner eu hamser yn astudio eu pwnc arall. Bydd myfyrwyr sy’n astudio Cyfrifiadureg fel prif bwnc yn treulio dwy ran o dair o’u hamser yn yr adran, a thraean eu hamser yn dilyn rhaglen gydlynol o fodiwlau ar gyfer is-bwnc mewn adran arall. Gallwch hefyd astudio Cyfrifiadureg fel is-bwnc, ac mae’r rhaglen honno wedi’i chynllunio i alluogi myfyrwyr sy’n astudio pynciau eraill i ddysgu am raglennu, cynllunio a chyflwyno meddalwedd, a chronfeydd data.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gyffredin i bob myfyriwr, boed chi wedi astudio cyfrifiadureg o’r blaen ai peidio. Os nad ydych wedi astudio cyfrifiadureg o’r blaen, byddwch yn astudio modiwl sy’n cyflwyno cysyniadau datblygu meddalwedd, yr amgylchedd meddalwedd yn Aberystwyth a iaith rhaglennu Java. Os ydych wedi astudio cyfrifiadureg o’r blaen yn yr ysgol neu mewn coleg, neu os oes gennych brofiad helaeth, byddwch hefyd yn dysgu Java ond mewn modiwl sy’n rhoi pwyslais ar gynllunio a rhaglennu yn gyffredinol.
Bydd modiwlau craidd eraill y flwyddyn gyntaf yn cyflwyno cronfeydd data (oni bai eich bod wedi eu hastudio ar gyfer lefel A neu gymhwyster cyfatebol), egwyddorion pensaernïaeth cyfrifiadur, rhaglennu ar gyfer y we a datblygiad personol a
phroffesiynol. Gallwch ddewis modiwlau eraill er mwyn magu gwybodaeth gefndirol mewn pwnc neu archwilio meysydd y gallwch eu hastudio’n fanylach yn y blynyddoedd dilynol.
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn arbenigo yn y pwnc yr ydych wedi’i ddewis. Bydd yr holl fyfyrwyr yn astudio’r modiwl Software Development Lifecycle, sy’n cynnwys prosiect grŵp.
Yn ystod trydedd flwyddyn y dysgu byddwch yn treulio traean eich amser yn cwblhau prosiect mawr mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.
Achredu Proffesiynol
Mae Cymdeithas Gyfrifiadureg Prydain (BCS) yn achredu ein cynlluniau ar ran y Cyngor Peirianneg.Mae’r Gymdeithas yn derbyn pob un o’n cynlluniau anrhydedd sengl a phrif bwnc (ac eithrio Cyfrifiadura y Rhyngrwyd a Thechnoleg Gwybodaeth Busnes) i’w hachredu ar y lefel briodol.