Blwyddyn Mewn Diwydiant

Anogir yr holl fyfyrwyr i dreulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant cyfrifiadura rhwng ail a thrydedd flwyddyn y dysgu yn eu cynlluniau gradd. Yn achos myfyrwyr ar y cynlluniau BEng, MEng a BSc Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial a BSc Cyfrifiadureg gydag iaith Ewropeaidd, mae’r flwyddyn mewn diwydiant yn rhan o’r asesu ar gyfer y radd. Gall myfyrwyr Cyfrifiadureg, Technoleg Gwybodaeth Busnes a Chyfrifiadura y Rhyngrwyd ddewis cynllun sy’n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant wedi’i hasesu os mynnant. Gellir trosglwyddo’n rhwydd rhwng cynlluniau.

Gall yr Adran Cyfrifiadureg a Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol eich cynorthwyo i ganfod lleoliadau gwaith addas ac i ddatblygu eich sgiliau cyfweld a’ch CV. Mae galw mawr am ein myfyrwyr blwyddyn mewn diwydiant ymhlith cyflogwyr o fri megis IBM, HP a Microsoft. Erbyn diwedd eich ail flwyddyn bydd gennych eisoes ddigon o wybodaeth a dealltwriaeth i allu gwneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn canfod eu bod yn dychwelyd o’u blwyddyn mewn diwydiant gyda gwell sgiliau o lawer, mwy o ysgogiad i ddysgu a gwell syniad ynghylch pa feysydd cyfrifiadura sydd o ddiddordeb iddynt.