Graddau Cyfun a Chyfuniadau Prif Bwnc/Is-bwnc

Ymhlith y cynlluniau Anrhydedd Cyfun mae:

Dyma gyfuniadau Prif Bwnc/Is-bwnc poblogaidd:

  • Cyfrifiadureg gyda Cyfrifeg a Chyllid G4N4
  • Cyfrifiadureg gydag Astudiaethau Busnes G4N1
  • Cyfrifiadureg gyda Cymraeg G4Q5*
  • Cyfrifiadureg gyda Cymraeg (i ddechreuwyr) G4QM

* = Cwrs a ddysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r radd prif bwnc neu anrhydedd cyfun mewn Cyfrifiadureg yn eich galluogi i gael addysg dechnegol a phroffesiynol gadarn mewn Cyfrifiadureg ac, ar yr un pryd, i dreulio traean neu hanner eich amser yn astudio rhaglen gydlynol o fodiwlau mewn pwnc arall. Yr un yw’r modiwlau craidd â’r rhai ar gyfer y radd BSc mewn Cyfrifiadureg.

Cyfrifiadureg gyda

Mae’r cynlluniau gradd 4 blynedd hyn yn gyfuniadau prif bwnc/is-bwnc sydd wedi eu hen sefydlu erbyn hyn, a’u nod yw rhoi addysg broffesiynol a thechnegol gadarn i fyfyrwyr mewn cyfrifiadureg, ynghyd â meistrolaeth ar un o dair iaith Ewropeaidd. Yn y flwyddyn gyntaf, yr ail a’r bedwaredd, byddwch yn treulio dwy ran o dair o’ch amser yn astudio cyfrifiadureg a thraean eich amser yn astudio’r iaith o’ch dewis. Mae blwyddyn mewn diwydiant yn rhan sy’n cael ei hasesu o’r cynlluniau hyn. Mae gan yr adran lawer o gysylltiadau â chwmnïau Ewropeaidd, drwy gyfrwng prosiectau ymchwil ar y cyd, a bydd yn eich cynorthwyo i ganfod lleoliadau gwaith yn niwydiant cyfrifiadura y wlad dan sylw.