Pam Dewis Cyfrifiadureg yn Aber?
Mae llond gwlad o resymau dros ddewis Prifysgol Aberystwyth. Dyma’r 10 uchaf:- Mae wedi'i lleoli yn Aberystwyth, sy'n lle hwyliog, rhad a diogel i fyw!
- Yn ôl arolwg cenedlaethol o fyfyrwyr, dyma lle cewch yr “Addysg Cyfrifiadureg Orau yng Nghymru”.
- Cawsom y marciau uchaf yn yr Asesiad o Ansawdd Dysgu (TQA).
- Mae ein myfyrwyr yn gwneud yn llawer gwell na’r cyfartaledd cenedlaethol o ran lefel cyflogaeth, math o gyflogaeth a chyflog.
- Mae gennym Adran gyfeillgar a staff brwd – llawer ohonynt â phrofiad sylweddol o’r diwydiant y byddant yn ei drosglwyddo i chi.
- Byddwch yn dysgu llawer: craidd sylfaenol o gyfrifiadura, ynghyd â phynciau newydd cyffrous. Mae ein graddau’n rhai ymarferol, ac mae’n rhwydd newid rhwng cynlluniau gradd wedi ichi gyrraedd yma.
- Byddwch yn dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr, yn ogystal â chyfrifiadura.
- Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ein gwaith ymchwil, ac yr ydym wedi gwario dros £4 miliwn ar offer grymus dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r gwaith wedi’i gwblhau bellach ar ganolfan ddelweddu a graffeg newydd gwerth £10 miliwn. Roeddem yn disgwyl i’r ganolfan gael ei hagor ym mis Medi/Hydref 2007, ond agorwyd ei drysau ynghynt na’r disgwyl, a hynny ym mis Awst 2007.
- Sicrwydd o le yn llety’r brifysgol i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, a chysylltiadau rhwydwaith am ddim.
- Wedi ichi ymweld â ni am y tro cyntaf, byddwch yn bendant o ddychwelyd!