Cyflwyniad i Adran y Gymraeg
Byth oddi ar sefydlu y Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma. Hon yw’r Adran Gymraeg fwyaf yng Nghymru, gyda 10 aelod o staff llawn amser sy’n dysgu’r holl rychwant o ieithoedd a llenyddiaethau Celtaidd. Canolbwyntia’r mwyafrif o’r staff ac o’r myfyrwyr ar y Gymraeg, ond mae graddau BA ar gael mewn Gwyddeleg Iaith a Llên, Astudiaethau Celtaidd, a Chymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. Darparwn gyrsiau is-raddedig ar gyfer Dechreuwyr a myfyrwyr Ail Iaith, yn ogystal â myfyrwyr Iaith Gyntaf.
Y mae’n destun balchder fod safon ein hymchwil a’n dysgu gyda’r uchaf posibl, ac ar y blaen i sefydliadau ymchwil-a-dysgu eraill yng Nghymru: dyfarnwyd inni y radd uchaf un (5*A) yn Asesiad Ymchwil 2001, y safle ail orau (ar ôl Caer-grawnt) ym Mhrydain yn Asesiad Ymchwil 2008, a ‘Rhagorol’ yn yr Asesiad Dysgu diwethaf. Bydd yr Adran yn cael ei gosod ar frig Adrannau Celtaidd y Deyrnas Gyfunol, neu yn agos iddo, yn y tablau cynghrair blynyddol sy’n seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys cyflogaeth graddedigion a bodlonrwydd myfyrwyr.
Lleolir Adran y Gymraeg yn adeilad atmosfferig yr Hen Goleg ‘ger y lli’, ryw ddeng munud o gerdded o Gampws Pen-glais a Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda’i chasgliadau dihafal o lawysgrifau, llyfrau a chylchgronau.
Y mae Adran y Gymraeg yn enwog am safon ryngwladol ei hymchwil, ond hefyd am ei chyfeillgarwch a’i hawyrgylch braf. Croesewir yma raddedigion o bob rhan o Gymru, ac, yn wir, o bedwar ban y byd. Mae gennym fyfyrwyr o Iwerddon, Lloegr, UDA, Canada, Slofenia, Llydaw, yr Almaen, y Ffindir, a Gwlad Pwyl, ac yr ydym yn cydweithio â phrifysgolion yn Awstria, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, a gwledydd eraill. Drwy gynllun cyfnewid Erasmus mae ein myfyrwyr yn gallu astudio mewn prifysgolion yn Iwerddon, Llydaw a mannau eraill yn Ewrop.