Cefnogaeth a Gwybodaeth i Fyfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf
- Canolfan Croesawu Myfyrwyr
- Cefnogaeth gan Staff yr Adran
- Eich Tiwtor Personol
- Y Cynllun Datblygiad Personol
- Adnoddau yn yr Hen Goleg
- Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Cyllid
Canolfan Croesawu Myfyrwyr
Yn ganolog i'r gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth mae'r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr a leolir ar Gampws Penglais. Cynigir gwasanaeth yn Gymraeg gan rai o dîm y dderbynfa, yn cynnwys cefnogaeth megis llenwi ffurflenni a'ch cyfeirio at ddarpariaeth briodol ym maes cyllid, anableddau, iechyd, gofal plant a chymorth dysgu. Mae'r ganolfan ar agor rhwng 9.00y.b. a 4.30y.p. rhwng dydd Llun a dydd Iau, a rhwng 9.00y.b. a 4.00y.p. ar ddydd Gwener; ceir cyfnod 'taro i mewn' ar brynhawn Mercher rhwng 2y.p. a 4.30y.p . Cysylltwch ar 01970 621761.
Cefnogaeth gan Staff yr Adran
Ysgrifenyddes Adran y Gymraeg - Miss Rhian Haf Owen; dyma eich cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau (01970 622137).
Pennaeth Adran - Yr Athro Aled Gruffydd Jones; cysylltwch ag Ysgrifenyddes yr Adran, Rhian Haf Owen er mwyn gwneud apwyntiad.
Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig - Dr Huw Meirion Edwards; cyswllt ar gyfer holl faterion academaidd.
Cydlynydd Anabledd - Dr Mihangel Morgan
Tiwtoriaid Personol - nodir pwy yw eich tiwtor Personol ar eich cofnod myfyriwr.
Eich Tiwtor Personol
Fel rhan o ddarpariaeth fugeiliol Adran y Gymraeg dewisir aelod o staff yr Adran yn Diwtor ar gyfer pob myfyriwr. Bydd eich Tiwtor yn gofyn ichi ddod i’w weld yn ystod pythefnos cyntaf y tymor (drwy ebost neu drwy gerdyn neu lythyr atoch yn y blychau post yn y cyntedd y tu allan i Swyddfa’r Adran).
Fel rheol bydd yr aelod hwnnw/honno o’r staff yn gweithredu fel eich Tiwtor drwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr israddedig, oni bai eich bod yn gwneud cais i Bennaeth yr Adran am ei newid. Bydd eich Tiwtor yn gofyn ichwi ddod i’w weld o leiaf unwaith yn ystod pob semester, fel rheol yn ystod yr wythnosau cyntaf. Yn ogystal bydd eich Tiwtor yn dynodi awr (neu fwy) yn ystod yr wythnos pan fydd ar gael ei fyfyrwyr ddod i’w weld heb drefniant blaenorol.
Os bydd gwir argyfwng gellwch hefyd, wrth gwrs, drefnu i weld eich Tiwtor ar unrhyw adeg arall (gellwch gysylltu â’ch Tiwtor yn uniongyrchol neu drwy Miss Rhian Haf Owen, Ysgrifenyddes yr Adran (rho@aber.ac.uk / 01970 622137).
Y Cynllun Datblygiad Personol
Mae cefnogaeth i’ch Cynllun Datblygiad Personol ar gael gan aelodau staff yr adran trwy ein cynllun Tiwtorial Personol, ac mae cyngor arbenigol ar yrfaoedd ar gael gan staff Gwasnaeth Gyrfaoedd y Brifysgol. Mae CDP wedi ei fewnosod yn Blackboard a gallwch gysylltu yn uniongyrchol ag adnoddau ar-lein sydd wedi eu dewis yn ofalus i gefnogi eich trawsnewid o gartref i brifysgol, sgiliau astudio, gwaith academaidd a chynllunio gyrfaol.
'Dechrau gyda'ch Portffolio CDP - Cyfarwyddiadau 'Sut i Wneud' i Fyfyrwyr' (pdf).
Bydd myfyrwyr iaith gyntaf yn cwblhau dwy dasg sy’n rhan o’r CDP fel rhan o’r modiwl CY10410 - Seminarau Iaith a Llên, ac yn achos myfyrwyr ail iaith gosodir aseiniad sy’n rhan o fodiwl CY12220 – Cymru Iaith a Diwylliant.
Am fwy o fanylion edrychwch ar Y Cynllun Datblygiad Personol yn Adran y Gymraeg ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Adnoddau yn yr Hen Goleg
Lleolir Ystafell Gyfrifiaduron yr Hen Goleg yn Ystafell y De 2 ac mae ar gael yn ystod y tymor rhwng 9.00y.b.hyd 21.45y.h.
Llyfrgell Hugh Owen
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ceir casgliad dihafal o lawysgrifau, llyfrau a chylchgronau yn y Llyfrgell Genedlaethol a dwy Ystafell Ddarllen ddymunol dros ben. Dilynwch y ddolen am fanylion ynghylch tocyn darllen ac ati.
Adnoddau eraill
Adnoddau Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg:
http://www.aber.ac.uk/cy/cgg/translation-and-support/language-resources
Adnoddau Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (Y Porth)
http://www.porth.ac.uk/cy
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Mae Adran y Gymraeg yn un o’r adrannau gorau yn y brifysgol o safbwynt niferoedd y graddedigion sy’n llwyddo i gael gwaith ar lefel graddedig chwe mis ar ôl graddio.Yn ogystal, yn ôl arolwg Cyrchfannau Graddedigion mae llai o fyfyrwyr Adran y Gymraeg yn ddi-waith chwe mis ar ôl graddio na'r cyfartaledd cenedlaethol. Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu mwy am leoliadau GO Wales a'r Flwyddyn Mewn Gwaith er mwyn ennill profiad gwaith gwerthfawr yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol trwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Bydd sawl aelod staff yno yn barod i'ch cynghori yn Gymraeg.
Dilynwch y ddolen ganlynol am ragor o fanylion am y Gwasanaeth Gyrfaoedd : www.aber.ac.uk/careers/fresher
Swyddog Cyswllt yr Adran â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yw Dr Bleddyn O. Huws
Cyllid
Mae cyngor ar gael ar bob math o faterion yn ymwneud â chyllid. Gallwch wneud apwyntiad i drafod materion ariannol drwy alw heibio’r Dderbynfa ar 3ydd llawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr.
Am ragor o wybodaeth ynghylch ffioedd a benthyciadau ewch draw i wefan
Cyllid Myfyrwyr Cymru