Cyrsiau Gradd (BA)

Mae 10 aelod o staff dysgu llawn amser yn yr Adran, ac o’r herwydd gallwn gynnig rhychwant eang o gyrsiau sy’n cwmpasu pynciau sy’n amrywio o’r Hengerdd i lenyddiaeth ddiweddar. Gyda’i gilydd ceir 30 a rhagor o fodiwlau yn Rhan 2, er enghraifft.Ceir yn yr Adran hefyd ddarpariaeth arbenigol mewn ieithoedd Celtaidd eraill heblaw’r Gymraeg.

Anrhydedd Sengl Cymraeg
Anrhydedd Sengl Cymraeg Proffesiynol

Astudiaethau Celtaidd
Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd
Llenyddiaeth a Hanes Cymru

Yn ogystal â chynllun gradd sengl yn y Gymraeg, mae’r Adran yn cynnig nifer helaeth o gynlluniau gradd sy’n cyfuno’r Gymraeg gyda nifer o bynciau academaidd a galwedigaethol. Ymhlith y mwyaf poblogaidd mae Cymraeg a Drama ac Astudiaethau Theatr, Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu, Cymraeg a Hanes Cymru, Cymraeg ac Addysg a Chymraeg a Daearyddiaeth. Mewn gwlad gynyddol ddwyieithog mae’r cynlluniau gradd hyn yn paratoi ein graddedigion i weithio mewn amryw feysydd.

Anrhydedd Cyfun
Anrhydedd Cymraeg Prif Bwnc
Anhrydedd Cymraeg Is-Bwnc
Gwyddeleg Anrhydedd Cyfun