Anrhydedd Cyfun

Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn gellir astudio ar gyfer gradd BA Anrhydedd Cyfun (Cymraeg + pwnc arall). Gellir cyfuno'r Gymraeg â nifer helaeth o bynciau (dros 20 i gyd), gan gynnwys Addysg, Astudiaethau Americanaidd, Astudiaethau Busnes, Astudiaethau Ffilm a Theledu, Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth, Celf, Daearyddiaeth, Drama ac Astudiaethau Theatr, Gwleidyddiaeth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Hanes, Hanes Cymru, Mathemateg, Almaeneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Saesneg a Sbaeneg.

Fel y gwelir, ceir dewis helaeth o fodiwlau, yn cwmpasu'r hen a'r diweddar, astudiaethau iaith a llên yn y cynllun gradd Anrhydedd Cyfun. (Y mae dau rif olaf cyfeirnod pob modiwl yn dynodi gwerth credydol y modiwl hwnnw, e.e. gwerth CY34120 yw 20 credyd.) Dylech astudio CY20120 Gloywi Iaith + hyd at 100 credyd drwy ddethol o blith modiwlau rhan 2.

Gellir dewis hefyd fodiwlau Gwyddeleg/Celtaidd (a chanddynt y cyfeirnod GC), gweler y cynllun gradd Astudiaethau Celtaidd. Ymhlith y rhain gellir cynnwys hyd at 20 credyd o fodiwlau GC Lefel Un.