Anrhydedd Cymraeg Is-Bwnc (Pwnc X gyda Chymraeg)

Ceir dewis helaeth o blith modiwlau Rhan 2 ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio ar gyfer gradd Anrhydedd BA gyda Chymraeg fel Is-Bwnc yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Dylai myfyrwyr ddewis CY20120 Gloywi Iaith + 60 credyd drwy ddethol o blith modiwlau Rhan 2.

Gellir dewis hefyd fodiwlau Gwyddeleg/Celtaidd (a chanddynt y cyfeirnod GC), gweler y cynllun gradd Astudiaethau Celtaidd. Ymhlith y rhain gellir cynnwys hyd at 20 credyd o fodiwlau GC Lefel Un.

Mae Cymraeg fel is-bwnc ar gael gyda'r pynciau canlynol. Noder nad yw'r cyfan o'r ddarpariaeth mewn rhai pynciau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Almaeneg
Busnes a Rheolaeth
Cyfrifeg a Chyllid
Cyfrifiadureg
Cyfrifiadureg/Cymraeg (dechreuwyr)
Ffrangeg
Gwleidyddiaeth
Hanes
Marchnata
Sbaeneg
Y Gyfraith