Anrhydedd Cymraeg Prif Bwnc (Cymraeg gyda Phwnc X)
Ceir dewis helaeth o blith modiwlau Rhan 2 ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio ar gyfer gradd Anrhydedd BA gyda Chymraeg fel Prif Bwnc yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Dylai myfyrwyr ddewis CY20120 Gloywi Iaith + 140 credyd drwy ddethol o blith modiwlau Rhan 2.
Gellir dewis hefyd fodiwlau Gwyddeleg/Celtaidd (a chanddynt y cyfeirnod GC), gweler y cynllun gradd Astudiaethau Celtaidd. Ymhlith y rhain gellir cynnwys hyd at 20 credyd o fodiwlau GC Lefel Un.
Mae Cymraeg fel Prif Bwnc ar gael gyda'r pynciau canlynol. Noder nad yw'r cyfan o'r ddarpariaeth mewn rhai pynciau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Almaeneg
Busnes a Rheolaeth
Daearyddiaeth
Ffrangeg
Gwleidyddiaeth
Hanes
Hanes Cymru
Marchnata
Sbaeneg