Anrhydedd Sengl Llenyddiaeth a Hanes Cymru
Gradd gymharol newydd yw hon a ddysgir ar y cyd gan Adran y Gymraeg a’r Adran Hanes a Hanes Cymru, dwy adran uchel eu bri academaidd. Y mae'n cynnig cyfle i archwilio mewn dyfnder y berthynas gymhleth a ffrwythlon a fu ar hyd y canrifoedd, hen a diweddar, rhwng hanes a llên yng Nghymru. Nodir isod y modiwlau y gellir eu dewis ar gyfer y radd gyffrous hon. (Y mae dau rif olaf cyfeirnod pob modiwl yn dynodi gwerth credydol y modiwl hwnnw, e.e. gwerth CY30520 yw 20 credyd.)
Llenyddiaeth Gymraeg
Blwyddyn 1 Anrhydedd: Tri modiwl o 20 credyd yr un i'w dewis o'r rhestr isod.
Blwyddyn 2 Anrhydedd: Tri modiwl o 20 credyd yr un i'w dewis o'r rhestr isod.
CY30620 Pedeir Keinc y Mabinogi
CY31320 Merched a Llenyddiaeth hyd c.1500
CY31520 Cerddi’r Gogynfeirdd c.1100-1370
CY33020 Y Canu Arwrol Cynnar
CY33120 Y Cynfeirdd Diweddar
CY33220 Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr
CY33420 Y Chwedl Arthuraidd yng Nghymru cyn 1100
CY33520 Datblygiad y Chwedl Arthuraidd
CY33620 Rhyddiaith y Dadeni
CY33720 Llên 1640-1740
CY33920 Llenyddiaeth Glasurol a Phoblogaidd 1740-1800
CY34020 Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
CY35120 Traethawd Estynedig (blwyddyn 3 yn unig)
Hanes Cymru
O leiaf 80 credyd a hyd at 110 credyd drwy ddethol o blith:
HC31230 Cymru er 1945
CF31220 Cymru er 1945
HC33130 Cymru a'r Tuduriaid 1530-1603
HC33230 Cymdeithas a Diwylliant Cymru 1660-1800
HC33330 Trosedd, Terfysg a Moesoldeb 1750-1850
HC34230 Hunaniaethau Cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain
CF34220 Hunaniaethau Cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain