Anrhydedd Sengl Cymraeg
Cyrsiau - Rhan 2
Mae'r dewis o fodiwlau y gellwch eu dilyn ar gyfer eich gradd Gymraeg yn helaeth ac amrywiol iawn. Disgwylir i fyfyrwyr anrhydedd sengl astudio modiwlau sy'n werth 240 o gredydau dros ddwy flynedd, 120 yn eu hail flwyddyn a 120 credyd yn eu blwyddyn olaf. Yn ogystal, caniateir i fyfyrwyr anrhydedd sengl ddilyn modiwlau gwerth 40 credyd mewn adrannau eraill os dymunant.
Dyma restr modiwlau Rhan 2.
Cyrsiau darlithio yw'r rhan fwyaf o'n cyrsiau, ond er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored cynhelir seminarau hefyd, lle mae'r awyrgylch yn fwy anffurfiol. Yr ydym yn cloriannu gwaith ein myfyrwyr drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.