Cymraeg Proffesiynol

3 blynedd (iaith gyntaf) - rhif UCAS Q5PO

Dyma gwrs gradd newydd fydd ar gael yn Adran y Gymraeg o 2011 ymlaen. Gofynnir am 'A' Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch fel rheol.

Rhan 1

Yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'n cyrsiau llenyddol a ieithyddol arferol (gweler Modiwlau Rhan 1 Cymraeg), byddwch yn dilyn modiwl 'Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol', sy'n cyflwyno rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, addasu ar gyfer y radio/teledu/ffilm, llunio adroddiadau, cymryd cofnodion, golygu, cysodi a pharatoi ar gyfer y wasg, cywiro proflenni, addasu llyfrau neu ganeuon o iaith arall.

Bydd y modiwl hefyd yn cyflwyno pynciau megis y Gymraeg yn y Cynulliad, newyddiaduraeth a nifer o agweddau eraill ar y cyfryngau a'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Rhan 2

Yn eich ail flwyddyn fe fyddwn yn trefnu cyfnod o brofiad gwaith ichwi yn un o'r 30 o sefydliadau a busnesau cyhoeddus a phreifat sy'n gysylltiedig â'r Adran, ac fe fyddwch yn llunio portffolio ar sail eich profiad o'r 'Gymraeg yn y Gweithle' (teitl y modiwl poblogaidd hwn). Byddwch hefyd yn dechrau ar gyrsiau heriol newydd megis 'Trosi ac Addasu' a 'Dehongli Treftadaeth y Cymry' yn ogystal ag ystod o fodiwlau iaith a llên yr Adran a fydd yn apelio atoch (gweler Modiwlau Rhan 2 Cyrmaeg).

Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn treulio traean o'ch amser yn cyflwyno 'Prosiect Hir' yn un o feysydd y radd newydd, dan gyfarwyddyd arbenigwyr Adran y Gymraeg. Erbyn hyn, byddwch yn barod i gymryd eich lle yn hyderus ym myd gwaith, efallai fel ymchwilydd mewn busnes, neu sefydliad cyhoeddus, yn y cyfryngau, ym maes cyfieithu, neu ym myd Addysg Uwch.