Astudiaethau Celtaidd
Q501 (pedair blynedd)
Y mae Adran y Gymraeg yn Aberystwyth yn un o’r prif ganolfannau prifysgol yng ngwledydd Prydain ar gyfer astudio’r ieithoedd Celtaidd, eu llenyddiaethau a’u diwylliannau. At hyn, Aberystwyth yw’r unig brifysgol yng Nghymru lle dysgir yr holl ieithoedd Celtaidd sy’n dal i gael eu defnyddio’n feunyddiol heddiw, sef Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg a’r Gymraeg.
Bydd eich cyrsiau i gyd (ar wahân i’r Gymraeg wrth gwrs) yn dechrau o’r dechrau, a gallwch ddysgu popeth drwy gyfrwng y Gymraeg – nid yw hyn yn bosibl yn unman arall heblaw Aberystwyth. Gall Astudiaethau Celtaidd roi cefndir a dyfnder i’ch dealltwriaeth o’r diwylliant Cymraeg ac wrth gwrs mae diwylliannau Iwerddon, yr Alban, a Llydaw yn hynod o ddiddorol ynddynt eu hunain.
Nid oes raid i chi astudio’r pedair iaith Geltaidd; craidd y cwrs yw ieithoedd a llên Cymru ac Iwerddon, tra bo Llydaweg a Gaeleg yr Alban yn ddewisiadau poblogaidd. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis canolbwyntio ar yr Oesoedd Canol ac eraill wedyn yn dewis ymddiddori mewn cyfnodau diweddarach, felly mae modd bod yn hyblyg o fewn y cynllun gradd. Cewch ddewis o blith nifer fawr o gyrsiau dewisol yn cynnwys Llên Arthuraidd, Merched a Llenyddiaeth, Ysgrifennu Creadigol, Cymraeg yn y Gweithle a llawer o rai eraill.
Astudio Dramor
Mae’r cwrs Astudiaethau Celtaidd yn parhau am bedair blynedd, sy’n caniatáu i chi dreulio blwyddyn gyfan mewn prifysgol o fri dramor dan y cynllun SOCRATES a ariennir gan y Gymuned Ewropeaidd ym Mrwsel. Gallwch dreulio blwyddyn gyfan heb dalu ffioedd naill ai yn Iwerddon neu yn Llydaw, neu gallwch ddewis treulio un semester yn y ddwy wlad (neu hyd yn oed mewn gwlad arall lle dysgir yr ieithoedd Celtaidd).