Cymraeg Ail Iaith / Cymraeg i Ddechreuwyr
Cymraeg i Ddechreuwyr
Mae Adran y Gymraeg yn cynnig modiwlau Lefel 1 ar gyfer myfyrwyr sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol o'r iaith. Cânt gwrs yn Saesneg ar hanes ein llên ond canolbwyntir yn bennaf ar ddysgu’r iaith yn gyflym a graenus yn y modiwlau eraill.
Gall Dechreuwyr ddewis modiwlau Cymraeg fel rhan o’u cyfuniad o fodiwlau ar gyfer Rhan 1 yn unig, neu fel cyflwyniad i gwrs gradd yn y Gymraeg (Q522) neu Astudiaethau Celtaidd (Q500, Q501) (cyrsiau pedair blynedd).
Mae tair ffrwd o fyfyrwyr Cymraeg yn y Flwyddyn Gyntaf:
- Myfyrwyr iaith gyntaf
- Myfyrwyr a ddysgodd Gymraeg fel ail iaith neu iaith fodern
- Myfyrwyr sy’n dymuno dechrau ei dysgu
Bydd y tair ffrwd yn cael eu dysgu ar wahân yn Rhan 1. Wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf yn llwyddiannus bydd Dechreuwyr yn ymuno â Lefel 1 Cymraeg Ail Iaith yn eu hail flwyddyn ac yn ymuno â myfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf ar gyfer astudiaethau yn Rhan 2.
Cymraeg (Ail Iaith) Q560
Bydd myfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf yn dilyn modiwlau ar wahân yn Lefel 1 ar hanes llenyddiaeth, arolwg beirniadol o lenyddiaeth ddiweddar a modiwl ar yr iaith a'i hynt. Ond gallant hefyd astudio modiwlau Cymraeg dewisol eraill yn ogystal â modiwlau Lefel 1 Llydaweg a Gwyddeleg.
Manylion modiwlau ail iaith.
Cwrs tair blynedd yw’r cwrs gradd Cymraeg i fyfyrwyr ail iaith ac yn Rhan 2 byddant yn ymuno â myfyrwyr iaith gyntaf (a Dechreuwyr) ac yn dewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau, o gyrsiau ar y Canu Arwrol Cynnar i Lenyddiaeth o 1979 ymlaen, o Ferched a Llenyddiaeth hyd 1500 i Ysgrifennu Creadigol, o Hen Gymraeg i’r Gymraeg yn y Gweithle. Dros gyfnod o ddwy flynedd byddant yn astudio cyfanswm o 240 credyd a bydd myfyrwyr anrhydedd cyfun yn dewis hanner y nifer honno.
Manylion modiwlau Rhan 2.