Cymraeg Iaith Gyntaf
Cyrsiau Lefel 1
Bydd pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn dilyn modiwlau mewn adrannau gwahanol sy’n werth 120 o gredydau, a disgwylir i fyfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg ddilyn modiwlau sy’n werth o leiaf 60 o gredydau. Dyma’r math o fodiwlau a gynigir:
- Arolwg o rai o uchafbwyntiau ein llên o’r chweched ganrif hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Cyflwyniad beirniadol i ryddiaith a barddoniaeth ddiweddar.
- Cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes yr iaith Gymraeg.
- Modiwl ar ‘Gyfryngau Diwylliant’, sy’n olrhain y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo diwylliant yng Nghymru, gan gynnwys y llawysgrif, y llyfr print a’r cyfryngau electronig diweddar.
Am fwy o fanylion am fodiwlau Lefel 1 a gynigir yn yr adran gweler yma.
Cofiwch hefyd fod modd dewis modiwlau Rhan 1 Gwyddeleg a Llydaweg.
Cyrsiau Rhan 2
Mae’r dewis o fodiwlau y gellwch eu dilyn ar gyfer eich gradd Gymraeg yn helaeth ac amrywiol iawn. Disgwylir i fyfyrwyr anrhydedd sengl astudio modiwlau sy’n werth 240 o gredydau dros ddwy fynedd, 120 credyd yn eu hail flwyddyn a 120 yn eu blwyddyn olaf. Yn ogystal, caniateir i fyfyrwyr anrhydedd sengl ddilyn modiwlau gwerth 40 credyd mewn adrannau eraill os dymunant.
Cyrsiau darlithio yw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau, ond er mwyn meithrin trafodaeth cynhelir seminarau hefyd, lle mae’r awyrgylch yn fwy anffurfiol. Yr ydym yn cloriannu gwaith ein myfyrwyr drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Gweler yma am fwy o fanylion ynghylch modiwlau Rhan Dau.